Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ysgol Pentyrch

Gwnaethom ymgynghori ar y prosiect hwn rhwng 14 Rhagfyr 2021 a 24 Ionawr 2022. Mae'r prosiect hwn wedi'i gwblhau.

Ar 14 Gorffennaf 2022 cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlyno:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Pentyrch o 140 i 210 o leoedd
  • Ehangu ystod oed yr ysgol o 4-11 i 3-11 drwy greu darpariaeth feithrin yn yr ysgol i gynnig 32 lle rhan amser.

Gweld copi o adroddiad y Cabinet

Gweld copi o'r Llythyr Penderfyniad (Word doc, 182 KB)

Y broses ymgynghori

Ystyriwyd adroddiad gan Gabinet Cyngor Caerdydd ar 10 Mawrth 2022 a amlinellodd argymhellion yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn ar gynigion i ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.

Gellir gweld yr adroddiad ar yr ymgynghoriad sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion ac ymateb yr Awdurdod a barn Estyn.

Cytunodd y Cabinet i'r Cyngor fwrw ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol cyfreithiol er mwyn:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Pentyrch o 140 i 210 o leoedd
  • Ehangu ystod oed yr ysgol o 4-11 i 3-11 drwy greu darpariaeth feithrin yn yr ysgol i alluogi cynnig 32 lle rhan amser.

Yr oedd yr hysbysiad statudol yn fyw o 6 Mai 2022 a caniatáodd cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at a chan gynnwys 2 Mehefin 2022.

Gweld y hysbysiad statudol (PDF, 180 KB)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2720 neu e-bostiwch [email protected]