Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Addysg Uwchradd Gymraeg

Daeth yr ymgysylltu â'r cyhoedd i ben ar 26 Mawrth 2026.

Mae penderfyniadau am ysgolion yn effeithio ar bob rhan o fywyd teuluol a chymunedol, eich plant, eich patrymau, eich gwaith, a'ch ardal leol.

Rydym am wneud yn siŵr bod pob dysgwr sydd eisiau lle ysgol uwchradd Cymraeg yn gallu cael mynediad at un. Mae hyn yn cynnwys pob disgybl mewn ysgolion cynradd Cymraeg, a disgyblion a allai fod yn dymuno trosglwyddo i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ddiweddarach.

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall beth sydd bwysicaf i chi.

Rydyn ni eisiau clywed eich barn chi ar:

  • Newidiadau tymor byr i'r disgyblion sy'n mynd i addysg uwchradd yn 2027 i 2028.
  • Sut i sicrhau cydbwysedd priodol rhwng lleoedd ysgolion uwchradd Cymraeg a chyfrwng Saesneg i wasanaethu Caerdydd yn y dyfodol.

Mae dau ymgysylltiad cyhoeddus ar yr uchod, a'r ddau yn rhedeg o 12 Chwefror i 26 Mawrth 2026.

Mae hwn yn gyfle i ddysgu am opsiynau posibl, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau. Dyma'ch cyfle i ddweud wrthym beth sydd fwyaf pwysig, beth sy'n eich poeni chi, a beth rydych chi'n ei obeithio dros ddyfodol addysg uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd.

Sut i gael gwybod mwy

Mae'r Data Cydraddoldeb Cyfrifiad Ysgolion tabl yn dangos gwybodaeth a ddarparwyd gan ysgolion Caerdydd, gan gynnwys: canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, canran y disgyblion nad yw eu hethnigrwydd yn 'Wyn Prydeinig', a chanran y disgyblion sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol.

Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall, e-bostiwch [email protected].

 

Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o'r dogfennau ymgysylltu:

Dweud eich dweud

Gallwch gyflwyno eich barn drwy'r dulliau canlynol:

Cwblhewch yr arolygon ar-lein:

Cwblhewch ac argraffwch y ffurflen ymateb a'i dychwelyd drwy'r post neu e-bost:

Mae'r Cyngor yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl fod yn ymwybodol o'r ymgynghoriad, i ddeall yr hyn sy'n cael ei gynnig, a sut i fynegi eu barn arno.

Rydym wedi trefnu cyfarfodydd ar-lein y gallwch fynd iddynt lle caiff y newidiadau rydym yn eu cynnig eu hesbonio. Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau fel rhan o'r sesiynau hyn.

Math o sewsiwnDyddiad ac amserLleoliad
Sesiwn galw heibioDydd Iau 19 Chwefror 2026 - 9:30am i 11:30amHyb Llanisien
Sesiwn galw heibioDydd Gwener 27 Chwefror 2026 - 10:30am i 12:30amHyb Trelái a Chaerau
Sesiwn galw heibioDydd Gwener 6 Mawrth 2026 - 11:30am i 1:30pmHyb Star
Sesiwn galw heibioDydd Llun 9 Mawrth 2026 - 12pm i 2pmCanolfan Ddiwylliant a'r Cyfryngau Loudon
Sesiwn galw heibioDydd Mercher 18 Mawrth 2026 - 11am i 1pmHyb Llaneirwg
Sesiwn galw heibio ar-leinDydd Mercher 18 Chwefror 2026 - 12pm i 1pmMicrosoft Teams
Sesiwn galw heibio ar-leinDydd Llun 23 Chwefror 2026 - 1pm i 2pmMicrosoft Teams
Sesiwn galw heibio ar-leinDydd Mawrth 24 Chwefror 2026 - 2pm i 3pmMicrosoft Teams
Sesiwn galw heibio ar-leinDydd Llun 2 Mawrth 2026 - 5pm to 6pmMicrosoft Teams
Sesiwn galw heibio ar-leinDydd Gwener 13 Mawrth 2026 - 12:30pm i 1:30pmMicrosoft Teams
Cyfarfod cyhoeddus (wyneb yn wyneb)Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026 - 5:30pm i 6:30pmNeuadd Goffa Llys-faen
Cyfarfod cyhoeddus (wyneb yn wyneb)Dydd Iau 19 Mawrth 2026 - 5:30pm i 6:30pmNeuadd y Sir
Cyfarfod cyhoeddus (ar-lein)Dydd Llun 16 Mawrth 2026 - 1pm i 2pmMicrosoft Teams
   

 

Os hoffech gymryd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus wyneb yn wyneb/ar-lein, cysylltwch â ni trwy e-bost yn [email protected] gan gadarnhau pa gyfarfod yr hoffech ei fynychu, ac fe anfonwn ddolen neu manylion atoch a chyfarwyddiadau ar sut y gallwch fynychu.

Cysylltu â ni

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw gwestiynau gennych.

E-bost: [email protected]

Ffôn: 029 2087 2720