Gwnaethom ymgynghori ar y prosiect hwn rhwng 20 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2023. Mae'r prosiect hwn wedi'i gwblhau.
Gallwch weld y llythyr cais cyn-ymgynghori (PDF, 102 KB).
Ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddatblygu adeilad newydd i gymryd lle Ysgol Uwchradd Willows
14 Mehefin - 23 Gorffennaf 2021.
Rydym yn adleoli ysgol Uwchradd Willows. Fydd yn cynnig cyfle cyffrous i chi helpu i lunio dyfodol yr ysgol.
Rydym am glywed eich barn ac yn awyddus i glywed cymaint o safbwyntiau â phosibl. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed barn plant a phobl ifanc, a fydd yn bwysig wrth ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol.
Bydd y broses ymgysylltu anstatudol chwe wythnos hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion, yr ysgol, rhieni a'r gymuned ehangach ddweud eu dweud ar sut y gellid datblygu'r ysgol newydd i ddiwallu anghenion y gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
Gwerthfawrogir eich barn a'ch sylwadau. Byddant yn chwarae rhan annatod wrth lunio dyfodol yr ysgol gan gynnwys y gwaith o ddatblygu'r adeilad newydd yn ogystal â darparu cwricwlwm newydd ac ail-frandio posibl.
Beth fydd yn cael ei ddarparu
Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf mewn adeilad newydd sbon mewn lleoliad newydd.
Bydd disgyblion yn gallu manteisio ar amgylchedd dysgu o safon a chyfleusterau cysylltiedig.
Bydd hyn yn cynorthwyo ac yn gwella'r prosesau addysgu a dysgu.
Bydd cyfleusterau chwaraeon gwell hefyd.
Ysgol i'r gymuned fydd hon a bydd cyfleusterau ar gael at ddefnydd y gymuned gyfan.
Bydd disgyblion yn aros yn adeilad presennol Ysgol Uwchradd Willows nes bod adeilad newydd yr ysgol yn barod. Ein nod yw amharu cyn lleied â phosibl ar addysg y disgyblion.
Sut olwg allai fod ar yr ysgol newydd
Mae'r fideo hwn yn dangos delweddau CGI o Ysgol Uwchradd Fitzalan sydd wrthi'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Fel hyn y gallai eich ysgol edrych.
Sut i gael gwybod mwy
Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen ymgysylltu sy'n manylu ar y newidiadau.
Gweld dogfen ymgysylltu Ysgol Uwchradd Willows (PDF, 2 MB).
Rydym hefyd wedi llunio fersiwn hygyrch o ddogfen ymgysylltu Ysgol Uwchradd Willows (PDF, 1 MB).
Rydym yn awyddus i roi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi am ein cynigion ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Trefnwyd cyfres o sesiynau galw heibio lle gallwch siarad â ni am yr ysgol newydd.
| Dyddiad/Amser | Venue |
|---|---|
| Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021 10am - 12 hanner dydd | Tesco, Pengam Green |
| Dydd Iau 24 Mehefin 2021 12 hanner dydd - 2pm | Brewery Field (gyferbyn â Rubicon Dance) |
| Dydd Mercher 30 Mehefin 2021 2pm - 4pm | Yr Hen Lyfrgell, Singleton Road |
| Dydd Mawrth 06 Gorffennaf 2021 6pm - 8pm | Pafiliwn Chwaraeon Parc Sblot |
| Dydd Llun 12 Gorffennaf 2021 10am - 12 hanner dydd | Hyb Butetown, Plas Iona, Stryd Bute |
| Dydd Iau 15 Gorffennaf 2021 4pm - 6pm | Hyb Butetown, Plas Iona, Stryd Bute |
Mae'r holl sesiynau'n cael eu cynnal yn unol â chanllawiau COVID-19 presennol.
