Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Darpariaeth ysgol ar gyfer Adamsdown a'r Sblot

Fel rhan o raglen Band B Ysgolion y 21ain Ganrif y Cyngor, mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i:

Darpariaeth Uwchradd ac Ôl-16

  • Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Willows o 1,121 lle (7.4 Dosbarth Mynediad) i 1,200 lle (8 Dosbarth Mynediad) ar gyfer disgyblion 11-16 oed o fis Medi 2023
  • Trosglwyddo Ysgol Uwchradd Willows i Barc Tremorfa, mewn adeiladau newydd, o fis Medi 2023
  • Sefydlu darpariaeth ôl-16 i hyd at 250 o ddisgyblion o fewn yr adeiladau newydd o fis Medi 2023

Darpariaeth Gynradd a'r Blynyddoedd Cynnar

  • Cau Ysgol Gynradd Gatholig St Alban, o fis Awst 2021
  • Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell o 420 lle (2 Ddosbarth Mynediad) i 630 lle (3 Dosbarth Mynediad) o fis Medi 2021
  • Lleihau ystod oed Ysgol Gynradd Baden Powell o 3-11 i 4-11 o fis Medi 2021
  • Trosglwyddo Ysgol Gynradd Baden Powell i Barc Tremorfa, mewn adeiladau newydd, o fis Medi 2023
  • Cynyddu capasiti Ysgol Feithrin Tremorfa o 112 lle i 128 lle a chynyddu ystod y gwasanaethau ar y safle gan gynnwys gofal plant a chymorth rhianta Dechrau'n Deg, o fewn Canolfan Blant Integredig ar safle'r Ysgol Feithrin Tremorfa bresennol a'r safle Ysgol Gynradd Gatholig St Alban gwag o fis Medi 2021

Cyfleusterau Cymunedol

  • Gwella cyfleusterau cymunedol yn Nhremorfa drwy adnewyddu rhai o'r cyfleusterau cymunedol awyr agored â rhai sylweddol well fydd wedi eu lleoli ar y safle ysgol newydd a chaeau chwarae newydd i'w rhannu gyda Chlwb Rygbi St Alban a'r gymuned ehangach.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei gynnal o 16 Medi tan 4 Tachwedd 2019.

Dweud eich dweud

Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen ymgynghori yn nodi'r manylion arfaethedig.

Ewch i'r ddogfen ymgynghoI (PDF, 1 MB)

Gweld y ddogfen grynhoi (PDF, 580 KB)

Rydym wedi trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio y gallwch fynd iddynt os hoffech i ni esbonio'r newidiadau awgrymedig i chi neu ofyn cwestiynau.

Natur yr ymgynghoriad

Dyddiad/Amser

Lleoliad

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Mawrth 17 Medi

9:30am - 11:00am

Hyb STAR

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Gwener 20 Medi

10am-11.30am

Ysgol Gynradd Gatholig St Alban

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Gwener 27 Medi

10am-1130am.

Ysgol Uwchradd Willows

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Llun 30 Medi

3pm - 4pm

Ysgol Gynradd Stacey

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Mawrth 1 Hydref

9am - 10am

Ysgol Gynradd Moorland

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Mawrth 1 Hydref

10am - 11:30am

Neuadd yr Eglwys St Alban

Cyfarfod cyhoeddus

Dydd Mercher 02 Hydref

6:30 - 8:00pm

Ysgol Gynradd Gatholig St Alban

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Iau 3 Hydref

5pm - 7pm

Llyfrgell Ganolog

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Mawrth 08 Hydref

1pm - 2:30pm

Meithrinfa Tremorfa

Cyfarfod cyhoeddus

Dydd Mercher 09 Hydref

6:30 - 8:00pm

Ysgol Uwchradd Willows

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Llun 14 Hydref

9am - 10am

Ysgol Gynradd Adamsdown

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Mawrth 22 Hydref

3:30pm - 5pm

Ysgol Gynradd Baden Powell

Sesiwn Galw Heibio

Dydd Iau 24 Hydref

4.30pm - 6.30pm

St Alban's RFC