Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ysgol Uwchradd Cathays

Ar 14 Hydref 2021 cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlynol:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 o leoedd chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 o leoedd chweched dosbarth), o fis Medi 2023
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan Maendy ger Ffordd y Goron a Heol y Gogledd
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn gofod pwrpasol yn adeiladau'r ysgol newydd

Mae'r gymeradwyaeth yn amodol ar gydsyniad y Comisiwn Elusennau mewn perthynas â safle Maendy yn cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth elusennol.

Gweld copi o adroddiad y Cabinet

Gweld copi o'r Llythyr Penderfyniad (PDF, 350 KB)

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus bellach wedi cau. Gallwch weld yr hysbysiad statudol ar y dudalen hon. Mae gennych tan 26 Gorffennaf 2021 i wrthwynebu'r hysbysiad statudol.

Fel rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd, mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion uwchradd a lleoedd anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r Cyngor yn cynnig:

  • Ehangu Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth);
  • Codi adeiladau newydd i Ysgol Uwchradd Cathays yn lle'r hen rai ar safle Canolfan y Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd;
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 lle i 50 lle mewn adeilad pwrpasol yn yr adeiladau ysgol newydd;
  • Uwchraddio cyfleusterau cymunedol yn Cathays a Gabalfa drwy sicrhau bod cyfleusterau ysgol llawer gwell ar gael i'w defnyddio ar y cyd â'r gymuned leol ehangach;
  • Darparu lle i'r gymuned leol barhau i gael mynediad i fannau agored oddi ar y ffordd at ddefnydd hamdden anffurfiol, gan gydnabod mai dyma'r defnydd presennol ar safle'r Maendy.

Dweud eich dweud

Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen ymgynghori yn nodi'r manylion arfaethedig.

Gweler y Ddogfen Ymgynghori (PDF, 1 MB)

Rydym hefyd wedi creu fersiwn hygyrch o'r ddogfen ymgynghori (PDF, 1 MB)

Gweler y Ddogfen Grynhoi (PDF, 720 KB)

Rydym hefyd wedi creu fersiwn hygyrch o'r ddogfen gryno (PDF, 595 KB)

Cwblhewch yr arolwg ar-lein

Ehangu ac ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays

Caiff adroddiad ar yr ymgynghoriad ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin 2021.

Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn nodi pryderon a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, yn enwedig ansicrwydd ynghylch lleoliad/cynllun yr ysgol newydd a'r effaith bosibl ar ofod mynediad agored, gan fynd i'r afael â'r rhain hefyd.

Mae gwaith pellach wedi'i wneud i lunio map ffiniau llinell goch dangosol ar gyfer safle arfaethedig yr ysgol sy'n ystyried y safbwyntiau a fynegwyd.

Mae'r map ac yn nodi'r gofod mynediad agored a fyddai ar gael, y ganolfan hamdden a'r traciau BMX y tu allan i ffin y datblygiad a fyddai'n cael eu cadw, y tir sydd ei angen ar gyfer yr ysgol a'r tir mynediad agored cymunedol sy'n weddill. Mae'r map yn nodi ardal fawr o ofod cymunedol, y tu allan i ffin yr ysgol a'r ganolfan hamdden o tua 13,500m² a fyddai'n cael ei chadw. Mae hyn yn gynnydd yn swm y gofod mynediad agored anghyfyngedig sydd ar gael i'w ddefnyddio gan y gymuned leol.

Gweld map dangosol Ysgol Uwchradd Cathays (PDF, 200 KB)

Byddai'r mannau mynediad agored yn ychwanegol at y cyfleusterau a fyddai'n cael eu cynnig o fewn ffin yr ysgol a fyddai ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol.

Byddai angen ystyried cynllun y safle ymhellach yn ystod y cam dylunio.

Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol i:

  • Ehangu Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 o leoedd yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 o leoedd yn y chweched dosbarth), o fis Medi 2023
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau'r ysgol newydd

Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig yn dilyn cyfarfod y Cabinet

Mae'r adroddiad ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor yma:

Agenda for Cabinet on Thursday, 17th June, 2021, 2.00 pm: City of Cardiff Council (moderngov.co.uk)

Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol Cyfreithiol: Ehangu ac Ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays

Ystyriwyd adroddiad gan Gabinet y Cyngor ar 17 Mehefin 2021 a amlinellodd argymhellion yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn ar gynigion i ehangu ac ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays.

Cytunodd y Cabinet i'r Cyngor fwrw ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol cyfreithiol er mwyn:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth), o fis Medi 2023
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau'r ysgol newydd

Mae'r hysbysiad statudol yn fyw o 29 Mehefin 2021 ac yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at 26 Gorffennaf 2021.

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol Cyfreithiol.

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i'r cyfeiriad e-bost canlynol: [email protected]

Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.