Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026.
Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar newidiadau i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o safon uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Hysbysiad statudol
Ar 29 Mai 2026, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor gyhoeddi Hysbysiadau Statudol cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae'r hysbysiadau am newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd Hywel Dda, Ysgol Gynradd Radnor, Ysgol Glan Morfa, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn fyw o 16 Mehefin 2026 ac yn caniatáu 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at ac yn cynnwys 13 Gorffennaf 2026.
Gweld manylion yr hysbysiadau:
- Ysgol Gynradd Hywel Dda (PDF, 178 KB)
- Ysgol Gynradd Radnor (PDF, 177 KB)
- Ysgol Glan Morfa (PDF, 177 KB)
- Ysgol Uwchradd Fitzalan (PDF, 177 KB)
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern (PDF, 177 KB)
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Gellir anfon gwrthwynebiadau hefyd at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd drwy e-bostio [email protected]
Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.
Adroddiad ymgynghori
Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Mai 2026.
Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiadau statudol i:
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 10, yn Ysgol Gynradd Hywel Dda o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 2027 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle o 2028 i 2029.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 30, yn Ysgol Gynradd Radnor o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 2027 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle yn 2027 i 2028 a 30 lle yn 2028 i 2029.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 10, yn Ysgol Glan Morfa o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a yfathrebu Cymdeithasol, â lle i 42, yn Ysgol Uwchradd Fitzalan o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 10, yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern o fis Medi 2027 yn yr adeiladau presennol.
Gellir gweld yr adroddiad ddiad ar Modern Gov.
Ymgynghoriad
Er mwyn ateb y galw am leoedd arbenigol i ddysgwyr ag Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol, cynigir:
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Saesneg newydd ag 20 lle yn Ysgol Gynradd Hywel Dda o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 20227 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle yn 2028 i 2029.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Saesneg newydd â 30 lle yn Ysgol Gynradd Radnor o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 2027 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle yn 2027 i 2028 a 30 lle yn 2028 i 2029.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Cymraeg newydd â 10 lle yn Ysgol Glan Morfa o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Saesneg newydd â 42 lle yn Ysgol Uwchradd Fitzalan o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Cymraeg newydd â 10 lle yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern o fis Medi 2027 yn yr adeiladau presennol.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 9 Chwefror 2026 i 26 Mawrth 2026 ac mae'n gyfle i ddysgu am y newidiadau arfaethedig, i holi cwestiynau ac i wneud sylwadau.
Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o'r dogfennau ymgynghori sy'n manylu ar y newidiad arfaethedig:
- Dogfen ymgynghori Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol (PDF, 1 MB)
- Dogfen gryno Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol (PDF, 926 KB)
- Dogfen hawdd ei darllen Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol (PDF, 320 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned (PDF, 401 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (PDF, 299 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (PDF, 374 KB)
Dweud eich dweud
Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026.
Cysylltwch â ni
Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2720
Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Neuadd y Sir
CF10 4UW
