Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026
Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar newidiadau i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o safon uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Hysbysiad statudol
Ar 29 Mai 2026, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor gyhoeddi Hysbysiadau Statudol cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae'r hysbysiadau am newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd Baden Powell, Ysgol Gynradd y Tyllgoed, Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof ac Ysgol Arbennig Greenhill yn fyw o 16 Mehefin 2026 ac yn caniatáu 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at ac yn cynnwys 13 Gorffennaf 2026.
Gweld manylion yr hysbysiadau:
- Ysgol Gynradd Baden Powell (PDF, 182 KB)
- Ysgol Gynradd y Tyllgoed (PDF, 177 KB)
- Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof (PDF, 177 KB)
- Ysgol Arbennig Greenhill (PDF, 177 KB)
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Gellir anfon gwrthwynebiadau hefyd at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd drwy e-bostio [email protected]
Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.
Adroddiad ymgynghori
Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Mai 2026.
Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiadau statudol i:
- Cynyddu nifer dynodedig y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o 8 i 16 o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Cynyddu nifer dynodedig y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion Iechyd a Lles Emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o 8 i 16 o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Iechyd a Lles Emosiynol, â lle i 8, yn Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Greenhill o 64 i 128 o leoedd o fis Ionawr 2027. Byddai'r ysgol ar draws dau safle gan ddefnyddio adeilad dros dro ar safle gwag Ysgol y Court yn Llanisien.
Gellir gweld yr adroddiad ddiad ar Modern Gov.
Ymgynghoriad
Er mwyn ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth arbenigol i ddysgwyr ag Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol, cynigir:
- Cynyddu'r nifer Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o 8 i 16 o fis Ionawr 2027 o fewn yr adeiladau presennol.
- Cynyddu'r nifer Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o 8 i 16 o fis Ionawr 2027 o fewn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Iechyd a Lles Emosiynol Cymraeg newydd yn Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof o fis Ionawr 2027 o fewn yr adeiladau presennol.
- Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Greenhill o 64 i 128 o leoedd o fis Ionawr 2027. Byddai'r ysgol ar draws dau safle gan ddefnyddio adeilad dros dro ar safle gwag Ysgol The Court yn Llanisien.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 9 Chwefror 2026 i 26 Mawrth 2026 ac mae'n gyfle i ddysgu am y newidiadau arfaethedig, i holi cwestiynau ac i wneud sylwadau.
Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o'r dogfennau ymgynghori sy'n manylu ar y newidiad arfaethedig:
- Dogfen ymgynghori Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol (PDF, 1 MB)
- Dogfen gryno Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol (PDF, 1 MB)
- Dogfen hawdd ei darllen Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol (PDF, 319 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned (PDF, 401 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (PDF, 299 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (PDF, 374 KB)
Dweud eich dweud
Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026
Cysylltu â ni
Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2720
Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Neuadd y Sir
CF10 4UW
