Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaethau rheoli plâu

Ni allwn drin llau gwely a chwilod duon mewn eiddo preswyl ar hyn o bryd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Rydym yn cynnig gwasanaeth rheoli plâu cynhwysfawr ar gyfer eiddo preswyl a masnachol.

Mae plâu yn peri risgiau iechyd sylweddol, gall achosi difrod i'ch eiddo, a gall eu presenoldeb gynyddu'n gyflym os na chaiff ei drin.

Mae ein tîm o dechnegwyr yn gymwys iawn, mae ganddynt ardystiadau cydnabyddedig, a phrofiad sylweddol yn y maes.

 

Plâu rydyn ni'n eu trin

 

Cyngor yn unig

Rhoddwn gyngor am ddim.

 

Cost ar gyfer eiddo preswyl

Cost ar gyfer triniaethau rheoli plâu mewn eiddo preswyl
PlaCostNifer yr ymweliadau
Llygod mawr£703
Llygod£703
Gwiwerod£703
Cacwn£701
Chwilod gwely (tŷ 1 i 3 ystafell wely)£1852
Chwilod gwely (tŷ 4+ ystafell wely)£2402
Chwilod duon (tŷ 1 i 3 ystafell wely)£1852
Chwilod duon (tŷ 4+ ystafell wely)£2402
Chwain (1 llawr)£851
Chwain (tŷ cyfan)£1101
Monitro pryfed£301

Mae'r gost yn cynnwys TAW.

Os bydd mwy nag 1 apwyntiad yn cael ei fethu, bydd angen ail-archebu'r gwasanaeth, a bydd angen i chi dalu'n llawn eto.

Os nad oes plâu yn cael eu canfod neu os nad ydym yn eu trin, byddwn yn ad-dalu 50% o'r tâl.

 

Eiddo masnachol

Rhaid cynnal o leiaf 3 ymwelid ar eiddo masnachol.

Rydym yn codi £85 am yr awr gyntaf o driniaeth ar gyfer cnofilod. Y gost fesul hanner awr yn ychwanegol yw £42.50. Mae'r holl brisiau'n cynnwys TAW.

Bydd cost triniaethau chwistrellu yn amrywio yn dibynnu ar faint yr eiddo ac amser o'r dydd rydyn ni'n ei drin.

Rydym yn cynnig contractau blynyddol ar gyfraddau cystadleuol.

Cysylltwch â ni am ddyfynbris neu i gael rhagor o wybodaeth.

 

Trefnu apwyntiad rheoli plâu

Trefnwch apwyntiad newydd

Darllenwch safonau'r gwasanaeth rheoli plâu (157kb PDF).

Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd y taliad a rhoi dyddiad i chi ar gyfer triniaeth.

Apwyntiadau dilynol

Os ydych chi'n dal i gael problemau gyda'r un plâu ar ôl triniaeth, gallwch chi drefnu apwyntiad dilynol.

Trefnu apwyntiad dilynol

Canslo apwyntiad

Rhaid i chi roi 24 awr o rybudd i ganslo apwyntiad. Os na fyddwch yn rhoi'r rhybudd hwn, bydd yn cyfrif fel 1 apwyntiad o'ch cynllun triniaeth.