Mae llygod yn bla cyffredin yn y DU, yn enwedig yn ystod y misoedd oerach pan fyddan nhw'n ceisio cynhesrwydd a lloches dan do. Y rhywogaeth fwyaf cyffredin yw'r Llygoden Fach.
Mae llygod yn gnofilod bach, addasadwy sy'n gallu ffitio drwy fylchau anhygoel o fach. Gallan nhw ddod yn niwsans yn gyflym oherwydd eu hatgenhedlu cyflym, difrod i eiddo a'r potensial i ledaenu clefyd.
Sut i nodi llygod ac arwyddion o bla
Mae cyrff llygod bach sy'n oedolion yn mesur 7 i 9cm ac mae ganddyn nhw gynffon sy'n mesur 7 i 9cm. Mae ganddyn nhw drwyn pigfain, clustiau mawr, a ffwr llwyd-frown.
Mae rhai nodweddion allweddol sy'n helpu i nodi problem gyda llygod yn cynnwys:
- Baw
Pelenni bach, tywyll tua 3 i 6mm o hyd (tebyg i hyd gronyn o reis) yn aml wedi'u gwasgaru ar hap. Mae ardaloedd cyffredin i ddod o hyd i faw yn cynnwys cypyrddau, droriau, neu y tu ôl i offer. - Difrod cnoi
I'w weld ar bren, plastig, gwifrau, dodrefn a phecynnau bwyd. - Traciau
Gall llygod adael olion traed bach ar draws arwynebau llychlyd, fel ar ben cwpwrdd cegin neu ar draws llawr garej. Gall ffwr olewog hefyd adael ôl seimllyd ar hyd waliau ac arwynebau. - Synau crafu
Mae clywed synau crafu o'r tu mewn i waliau, nenfydau neu o dan estyll yn arwydd o lygod. Gall hyn fod yn fwy amlwg yn y nos. - Nythod
Mae papur, ffabrig neu inswleiddio wedi torri'n arwydd o lygoden yn defnyddio'r deunydd i adeiladu nyth yn rhywle tawel a chudd.
Pam mae llygod yn broblem
Gall llygod beri sawl risg iechyd a diogelwch, gan gynnwys:
- Halogi bwyd drwy faw, wrin a phoer.
- Difrod i wifrau trydanol, dodrefn, strwythurau pren a thoeau. Mae hyn yn arwain at ddifrod strwythurol.
- Bridio cyflym iawn sy'n arwain at blâu mawr os nad yw'r broblem yn cael ei datrys yn gyflym.
Beth sy'n denu llygod?
Mae llygod yn cael eu denu at gartrefi i chwilio am fwyd, cynhesrwydd a deunyddiau nythu. Maen nhw'n cael eu denu at y canlynol:
- Bwyd wedi'i storio'n wael mewn ceginau neu gypyrddau.
- Biniau sy'n gorlifo neu'n agored.
- Bwyd anifeiliaid anwes sydd wedi'i adael allan dros nos.
- Bylchau o amgylch drysau, pibellau a fentiau. Gall tyllau bach mewn gwaith brics roi mynediad i lygod i geudodau wal.
- Ardaloedd anniben neu nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n aml fel atig, sied, ac o dan sinciau.
Gwaredu llygoden farw
Os ydych yn dod o hyd i lygoden farw yn eich cartref, mae'n bwysig ei gwaredu'n ddiogel:
- Gwisgwch fenig - peidiwch â chyffwrdd â'r llygoden gyda dwylo noeth.
- Defnyddiwch raw neu offer tafladwy i'w chodi.
- Rhowch y corff mewn dau fag plastig cryf gan glymu'n ddiogel.
- Rhowch y bag yn eich gwastraff cyffredinol - peidiwch â rhoi'r bag yn eich gwastraff gardd neu eich ailgylchu.
- Diheintiwch yr ardal lle daethpwyd o hyd i'r llygoden gan ddefnyddio glanedydd addas.
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr ar ôl tynnu'r menig.
Trefnu apwyntiad
Cyn eich apwyntiad
Cyn i'r technegydd gyrraedd, cymerwch gamau i baratoi eich cartref ar gyfer y driniaeth:
- Glanhewch a thacluswch
Caniatewch fynediad i sgyrtinau, agorfeydd atig, a thu ôl i offer. - Storiwch fwyd yn ddiogel
Symudwch fwyd o loriau a chownteri, seliwch gynwysyddion bwyd a storiwch nhw mewn lle diogel. - Diogelwch anifeiliaid anwes a bwyd anifeiliaid anwes
Symudwch fwyd anifeiliaid anwes o'r llawr, seliwch gynwysyddion bwyd anifeiliaid anwes a chyfyngwch ar fynediad i anifeiliaid anwes yn ystod y driniaeth. - Rhowch wybod am arwyddion o weithgarwch
Gwnewch nodyn o unrhyw achosion o weld llygod, baw, cnoi neu synau.
Bydd y driniaeth yn cynnwys abwyd a nodi pwyntiau mynediad ar gyfer diogelu at y dyfodol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyngor ôl-ofal a gaiff ei roi gan y technegydd.
Canslo apwyntiad
Rhaid i chi roi 24 awr o rybudd i ganslo apwyntiad. Os na fyddwch yn rhoi'r rhybudd hwn, bydd yn cyfrif fel 1 apwyntiad o'ch cynllun triniaeth.
