Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adar

Nid ydym yn cynnig gwasanaethau rheoli plâu ar gyfer adar ond gallwn gynnig rhywfaint o arweiniad ar sut i fynd i'r afael â nhw.

Mae pob aderyn gwyllt yn y DU yn cael ei ddiogelu ac yn chwarae rhan bwysig yn yr ecosystem. Fodd bynnag, gall rhai rhywogaethau fel colomennod gwyllt a gwylanod trefol (gwylanod y penwaig a gwylanod cefnddu lleiaf) ddod yn niwsans pan fyddant mewn grwpiau mawr.

Gall eu baw, eu harferion nythu, eu sŵn a'u hymddygiad sborio bwyd ymosodol arwain at bryderon iechyd, difrod i eiddo ac anghyfleustra cyhoeddus yn gyffredinol.

Pam y gall colomennod a gwylanod fod yn broblem

  • Baw
    Mae baw adar yn annymunol, yn llithrig ac yn asidig. Gall hyn arwain at risgiau iechyd posibl a difrod i waith cerrig a cherbydau.
  • Sŵn ac ymosodedd
    Gall gwylanod yn enwedig fod yn swnllyd ac yn ymosodol iawn, yn enwedig yn ystod y tymor nythu pan fyddant yn amddiffyn eu rhai bach. Bydd gwylanod hefyd yn dod yn fwy ymosodol a beiddgar wrth gystadlu am fwyd gyda gwylanod eraill.
  • Rhwystro gwteri a pheipiau dŵr
    Gall nythod achosi rhwystrau sy'n arwain at lifogydd a phroblemau lleithder.

 

Nythu ac ymddygiad

  • Mae colomennod fel arfer yn clwydo ac yn nythu ar silffoedd, ar ymylon to ac o dan bontydd. Byddant yn bridio trwy gydol y flwyddyn ac yn dodwy 1 i 2 ŵy bob tro y byddant yn nythu.
  • Mae'n well gan wylanod doeau ac arwynebau gwastad mewn amgylcheddau trefol. Mae'r tymor nythu fel arfer rhwng mis Ebrill a mis Awst, ac maent yn fwyaf ymosodol yn ystod y cyfnod hwn.
  • Mae'r ddwy rywogaeth yn fwydwyr oportiwnistaidd iawn. Maent yn ffynnu ar wastraff bwyd wedi'i daflu, bagiau sbwriel wedi'u hollti, safleoedd tirlenwi a bwyd a roddir gan bobl.
  • Os ydych yn dod o hyd i gyw sydd wedi cwympo o nyth, gadewch y cyw lle gwnaethoch ei ddarganfod gan y bydd y rhieni yn dal i ofalu am y cyw.
  • Os yw'n ymddangos bod y cyw wedi'i anafu, gallwch ffonio'r RSPCA ar 0300 123 4999.

 

Atal problemau adar

  • Peidiwch â bwydo adar
    Mae bwydo'n annog heidiau mawr i gasglu ac yn eu gwneud yn fwy dibynnol ar amgylcheddau trefol.
  • Sicrhewch finiau a gwastraff
    Gwnewch yn siŵr bod caeadau wedi'u cau'n dynn ac nad yw gwastraff yn hygyrch. Glanhewch unrhyw wastraff sy'n gollwng allan o finiau.
  • Gosodwch offer atal
    Gall pigau, rhwydi neu wifrau atal clwydo atal adar rhag glanio neu nythu.
  • Dyfeisiau dychryn
    Gall tâp adlewyrchol, ysglyfaethwyr ffug neu offer sain helpu mewn rhai achosion.
  • Seliwch bwyntiau mynediad
    Gallwch atal mynediad at fannau atig, o dan bondo'r to neu wagleoedd yn y to lle gall yr adar geisio nythu. Bydd hyn yn bennaf yn mynd i'r afael â rhywogaethau adar eraill, ond gall colomennod hefyd geisio defnyddio mannau tebyg.

Diogelir pob aderyn gwyllt yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Ni allwch achosi niwed bwriadol i unrhyw adar, waeth beth fo'r niwsans y gall ei achosi. Dim ond o dan drwyddedau penodol a chan weithwyr proffesiynol lle mae iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd mewn perygl y gellir cyflawni mesurau rheoli.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru.

 

Pryd dylech gael cymorth proffesiynol

  • Pan fo adar yn nythu mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd neu warchodedig.
  • Os yw baw neu nythod yn effeithio ar iechyd a diogelwch y cyhoedd.
  • Er mwyn gosod systemau atal adar.

Mae'n bwysig atal niwsans gan adar heb eu niweidio. Mae cydweithrediad y cyhoedd, yn enwedig wrth beidio â bwydo adar a rheoli gwastraff bwyd yn iawn, yn chwarae rhan bwysig wrth eu hatal yn y tymor hir.

Gall problemau adar sy'n niwsans fod yn rhwystredig, ond trwy gymryd ymagwedd ataliol, gall cymunedau leihau problemau tra'n parchu amddiffyniadau bywyd gwyllt.