Mae chwilod duon yn bryfed nos gwydn sy'n ffynnu mewn amgylcheddau cynnes, llaith ac yn aml i'w cael mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi. Gallan nhw gario bacteria niweidiol, halogi bwyd, a sbarduno alergeddau neu asthma. Y rhywogaethau mwyaf cyffredin o chwilen ddu yn y DU yw'r chwilen ddu Almaenig a'r chwilen ddu Ddwyreiniol.
Sut i nodi chwilod duon
Mae gan chwilod duon gyrff gwastad, hirgrwn gydag antenâu hir a chwe choes pigog. Mae'r chwilen ddu Almaenig yn frown golau gyda dwy streipen dywyll yn rhedeg gyda'r hyd i lawr ei chorff. Fel arfer mae'n 10mm i 15mm o hyd.
Mae chwilod duon dwyreiniol yn frown tywyll i ddu. Maen nhw'n symud yn arafach ac yn fwy o faint gan fod rhwng 20mm i 25mm.
Mae'r ddwy rywogaeth yn gallu symud yn gyflym ac yn weithgar yn y nos yn bennaf.
Mae chwilod duon ifanc (a elwir yn nymffau) yn fersiynau llai a diadain o oedolion ac yn bwrw croen sawl gwaith cyn cyrraedd aeddfedrwydd.
Cylch bywyd chwilod duon
Mae gan chwilod duon 3 chyfnod bywyd:
- Ŵy
Mae chwilod duon benywaidd yn cynhyrchu casys wyau, gyda phob un yn cynnwys hyd at 40 wy yn dibynnu ar rywogaeth. Mae chwilod duon Almaenig yn cario'r cas wyau tan ychydig cyn deor, tra bod chwilod duon Dwyreiniol yn eu gollwng mewn ardaloedd cysgodol. - Nymff
Ar ôl deor, mae nymffau yn dod allan ac yn dechrau bwydo a datblygu drwy fwrw croen sawl gwaith. Maen nhw'n ddiadain ac yn debyg i oedolion bach. - Oedolyn
Ar ôl bwrw croen am y tro olaf, mae chwilod duon wedi tyfu'n llawn. Mae chwilod duon Almaenig yn dod yn oedolyn mewn 6 i 8 wythnos, tra gall chwilod duon Dwyreiniol gymryd sawl mis.
Gall un fenyw gynhyrchu cannoedd o epil yn ystod ei hoes. Mae hyn yn arwain at blâu cyflym.
Arwyddion o chwilod duon
- Eu gweld nhw
Dylech gymryd chwilod duon byw yn y cartref o ddifrif, ac ymchwilio. - Baw
Baw bach, tywyll neu staeniau o amgylch sgyrtinau, ar ben cypyrddau neu y tu ôl i offer. - Casys wyau
Mae dod o hyd i gasys wyau wedi'u gadael mewn ardaloedd cudd yn arwydd cryf o bla gweithredol. - Arogl annymunol
Gall arogl mwdlyd neu olewog ddatblygu mewn ardaloedd sydd â phresenoldeb chwilod duon sylweddol. - Croen wedi'i fwrw
Wrth i nymffau dyfu, maen nhw'n bwrw eu crwyn. Gellir dod o hyd i groniadau o'r croen hwn ger safleoedd nythu.
Atal plâu
- Cadwch geginau'n lân, gan sychu arwynebau a storio bwyd mewn cynwysyddion wedi'u selio.
- Glanhewch offer rhag saim a gweddillion bwyd yn rheolaidd ac yn drylwyr.
- Peidiwch â gadael bwyd anifeiliaid anwes na llestri budr allan dros nos.
- Gwagiwch finiau'n rheolaidd a chadwch gaeadau wedi'u selio'n dynn.
- Tacluswch ardaloedd o amgylch y cartref i leihau cuddfannau ar gyfer chwilod duon.
Trefnu apwyntiad
Cyn eich apwyntiad
- Tacluswch a glanhewch
Symudwch eitemau o dan sinciau, y tu mewn i gypyrddau cegin, ac ardaloedd eraill a amheuir. Glanhewch yr holl arwynebau i gael gwared ar weddillion bwyd. - Gwagiwch finiau a sicrhewch fwyd
Gwagiwch sbwriel a storiwch yr holl fwyd mewn cynwysyddion aerglos neu ei symud o'r ardaloedd triniaeth. - Glanhewch a hwfrwch yn drylwyr
Yn enwedig mewn corneli, y tu ôl i offer, ac ar hyd sgyrtinau i gael gwared ar wyau, baw a malurion. - Darparwch fynediad
Symudwch dodrefn neu offer ychydig i ganiatáu mynediad i waliau, sgyrtinau a chuddfannau eraill. - Symudwch anifeiliaid anwes
Dylech fynd ag anifeiliaid anwes allan o'r cartref yn ystod y driniaeth.
Canslo apwyntiad
Rhaid i chi roi 24 awr o rybudd i ganslo apwyntiad.
