Nid ydym yn cynnig gwasanaethau rheoli plâu ar gyfer gwahaddod ond gallwn gynnig rhywfaint o arweiniad ar sut i fynd i'r afael â nhw yn eich gardd.
Mae gwahaddod yn famaliaid bach sy'n tyllu a geir yn gyffredin ledled y DU, yn enwedig mewn ardaloedd glaswelltog neu amaethyddol fel gerddi, parciau, caeau chwaraeon a thir fferm. Yn anaml iawn maent yn cael eu gweld gan eu bod yn treulio'r rhan fwyaf o'u bywydau o dan y ddaear.
Er nad ydynt yn niweidiol i bobl, gall gwahaddod achosi difrod i erddi a chnydau. Mae gwahaddod yn creu twneli o dan y ddaear, gan arwain at dwmpathau gwadd a phridd wedi'i darfu a all fod yn hyll ym marn rhai pobl.
Sut i nodi gweithgarwch gwahaddod
- Twmpathau gwadd
Pentyrrau ffres o bridd ar yr wyneb yw'r arwydd mwyaf amlwg. Mae'r rhain yn cael eu creu pan fo gwahaddod yn gwthio pridd rhydd allan o'u twneli. - Rhesi o bridd neu lwybrau dyrchafedig
Mewn tyweirch glaswellt neu dir meddal, efallai y byddwch yn gweld olion uchel sy'n dynodi twneli bas. - Tir anwastad neu wedi cwympo
Mae gwelyau blodau yn fwy agored i dwneli bas sy'n cwympo ac yn achosi i'r ddaear ddod yn anwastad.
Ymddygiadau ac arferion gwahaddod
- Mae gwahaddod yn anifeiliaid unigol ac yn diriogaethol iawn ac ni fyddant yn goddef gwahaddod eraill o fewn eu system dwneli. Gall un wahadden greu hyd at 20 o dwmpathau gwadd y dydd wrth ymestyn ei thwneli.
- Maent yn fwyaf gweithgar yn ystod y bore cynnar ac yn hwyr gyda'r nos gyda mwy o weithgarwch yn ystod y Gwanwyn a'r Hydref.
- Yn ystod y misoedd oerach, mae gwahaddod yn cloddio'n ddyfnach i'r pridd lle mae'n gynhesach a lle mae ffynonellau bwyd, fel mwydod, ar gael o hyd.
- Mae gan wahaddod olwg gwael ond maent yn gwneud iawn am hynny gyda chlyw rhagorol a sensitifrwydd i ddirgryniadau daear.
A yw gwahaddod yn peri risg i iechyd?
Nid yw gwahaddod yn peri unrhyw risg uniongyrchol i iechyd pobl nac anifeiliaid anwes. Nid ydynt yn gludwyr clefydau hysbys ac nid ydynt fel arfer yn dod i gysylltiad â phobl. Mae eu presenoldeb bron yn gyfan gwbl yn cael ei sylwi trwy eu twnelu tanddaearol a'r twmpathau gwadd sy'n deillio o hynny.
Er y gall eu gweithgarwch arwain at darfu ar erddi neu gnydau, y risg fwyaf y mae gwahaddod yn ei chyflwyno yw perygl baglu corfforol. Gall twmpathau gwadd achosi tir anwastad a allai beri risg fach o anaf mewn ardaloedd â llwybrau cerdded.
Mae'n bwysig cofio bod gwahaddod yn anifeiliaid swil ac enciliol sydd dim ond yn dilyn ymddygiadau naturiol. Mae eu heffaith yn gosmetig neu'n amaethyddol yn bennaf yn hytrach na phryder iechyd cyhoeddus. Yn y rhan fwyaf o leoliadau domestig, gellir eu rheoli'n drugarog heb yr angen am fesurau rheoli ymosodol neu niweidiol.
Mynd i'r afael â gwahaddod
Er y gellir rheoli gwahaddod, mae'n bwysig gwneud hynny'n drugarog ac o fewn y gyfraith. Mae'n anghyfreithlon achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid gwyllt. Osgowch ddefnyddio gwenwyn ac offer atal heb eu cymeradwyo.
- Arbenigwyr
Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â daliwr gwahaddod arbenigol neu weithiwr rheoli bywyd gwyllt proffesiynol. Bydd y gweithwyr hyn wedi'u hyfforddi mewn arferion rheoli gwahaddod trugarog a chyfreithiol a gallant asesu graddfa'r broblem yn fwy effeithiol. - Gwrthyrwyr
Mae nifer o wrthyrwyr yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gweithio i atal gwahaddod, ond nid yw eu heffeithiolrwydd yn glir. Efallai y bydd angen eu defnyddio eto hefyd, yn enwedig ar ôl glaw. - Offer atal nad ydynt yn angheuol
Gall opsiynau fel plannu planhigion persawrus cryf, fel gold Mair, neu ddefnyddio polion sonig atal gwahaddod rhag setlo mewn ardal, er y gall cyfraddau llwyddiant amrywio. - Monitrwch
Mewn rhai achosion, yn enwedig pan mai dim ond 1 neu 2 dwmpath gwadd sy'n bresennol, gall fod yn ymarferol aros. Gall gwahaddod symud ymlaen yn naturiol os yw'r cynefin yn mynd yn anaddas neu os yw ffynonellau bwyd yn cael eu lleihau.
Cyn gweithredu unrhyw fesurau rheoli, mae'n ddoeth asesu lefel yr aflonyddwch a'i bwyso yn erbyn yr ymdrech neu'r niwed sy'n gysylltiedig. Mae gwahaddod yn chwarae rôl fuddiol mewn awyru pridd a rheoli pryfed, felly lle bo hynny'n bosibl, mae'n well defnyddio atebion nad ydynt yn angheuol.
