Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Papur a chardfwrdd

Papur a chardfwrdd

Mae papur a chardfwrdd yn mynd yn eich sach las.

Casgliad bob wythnos.

Gallwch gasglu sachau o'ch stocwyr lleol.

Defnyddiwch hwn ar gyfer

  • Cerdyn a blychau cardfwrdd
  • Cartonau wyau
  • Tiwbiau papur tŷ bach
  • Blychau grawnfwyd
  • Blychau past dannedd
  • Papur
  • Papurau newydd a chylchgronau
  • Amlenni a llythyrau
  • Papur argraffydd a charpion papur

    Gellir rhoi symiau bach o garpion papur, megis derbynebau a biliau, mewn cynhwysydd wedi'i wneud o gerdyn neu bapur, megis bag papur, yna ei roi yn eich sach.

    Os ydym yn disgwyl tywydd sych, gallwch roi llawer iawn o garpion papur mewn blwch cardfwrdd wrth ymyl eich cynwysyddion ailgylchu i'w gasglu.

Peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer

  • Cartonau bwyd a diod, megis Tetra Pak
  • Polystyren
  • Ffilm neu becynnu plastig
  • Papur wal
  • Papur lapio
  • Hancesi papur, tywelion papur a phapur cegin
  • Cynhyrchion hylendid
  • Bagiau siopa neu fin plastig