Os na allwch roi eich cynwysyddion ailgylchu a gwastraff allan i'w casglu, gallwch ofyn am gasgliadau â chymorth.
Gallwch fanteisio ar gasgliadau â chymorth os:
- ydych yn anabl ac ni allwch gario'r cynwysyddion i'r palmant i'w casglu,
- nad oes unrhyw un arall yn y cartref sy'n gallu cario'r cynwysyddion, ac
- nad oes unrhyw aelodau o'r teulu, cymdogion na gofalwyr sy'n gallu helpu.
I ofyn am gasgliadau â chymorth, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.
Bydd ein Tîm Ailgylchu a Gwastraff yn trefnu ymweliad ar garreg y drws i sicrhau y byddai casgliadau'n ddiogel i'n criwiau ac i gytuno ar fan casglu priodol. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ystyried newid o wasanaeth casglu biniau i wasanaeth casglu bagiau. Gallai hyn ei wneud yn haws i chi roi eich ailgylchu a'ch gwastraff allan i'w gasglu.
Nid ydym yn cynnig casgliadau â chymorth i breswylwyr sy'n defnyddio biniau cymunedol nac i breswylwyr sy'n gallu rhoi eu gwastraff yn syth ar y palmant y tu allan i'w heiddo.
Ni all ein criwiau ddod i mewn i'ch cartref i gasglu eich gwastraff.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd y gwasanaeth yn dechrau o'r casgliad nesaf sydd wedi'i drefnu.
Byddwn yn cysylltu â chi bob 2 flynedd i weld a oes angen y gwasanaeth arnoch o hyd.
Os na fyddwch yn ymateb i'r llythyr, byddwn yn rhoi'r gorau i'r gwasanaeth. Gallwch ofyn am asesiad newydd unrhyw bryd.
Cynwysyddion ailgylchu a gwastraff
Os ydych wedi'ch cofrestru ar gyfer casglu â chymorth ac na allwch gyrraedd eich Hyb lleol, gallwch archebu'r cynwysyddion ar-lein.
Casgliadau a fethwyd
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac rydym yn methu eich casgliad, rhowch wybod i ni o fewn 48 awr.
Gallwch adrodd am gasgliad a fethwyd ar-lein.
