Mae deunyddiau ailgylchu sych yn cael eu casglu bob wythnos. Mae hyn yn cynnwys:
- papur,
- cardfwrdd,
- gwydr,
- plastigau, a
- thuniau.
Defnyddiwch hwn ar gyfer...
- Aerosolau
- Cardfwrdd
- Catalogau
- Caniau diod
- Amlenni (gyda ffenestri a hebddynt)
- Tuniau bwyd
- Poteli gwydr
- Jariau gwydr
- Caeadau jariau jam
- Post sothach a thaflenni (tynnwch y deunydd lapio plastig)
- Ffoil (wedi'i lanhau a'i wasgu'n bêl)
- Tybiau Marjarîn
- Cylchgronau
- Papurau newydd
- Papur
- Papur (wedi'i rwygo) - defnyddiwch fag ar wahân (peidiwch â chymysgu gydag ailgylchu arall)
- Cyfeirlyfrau ffôn
- Poteli plastig
- Cynhwysyddion ffrwythau plastig
- Hambyrddau prydau parod plastig
- Potiau iogwrt
Peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer...
- Gwydr wedi torri
- CDs neu DVDs
- Dillad neu esgidiau
- Cambrenni
- Eitemau trydanol
- 'Ffoil ffug' (e.e. pacedi creision neu fagiau bwyd cath)
- Nwyddau'r Gegin
- Cewynnau
- Tuniau paent
- Bagiau plastig
- Teganau plastig
- Deunydd pacio polystyren neu hambyrddau cludfwyd
- Caséts fideo
- Papur wal
Gallwch ddefnyddio ein A i Y ailgylchu i weld sut mae eitemau'n gallu cael eu hailgylchu neu eu gwaredu'n ddiogel.
Bagiau gwyrdd
O 2 Mehefin 2025, ni fyddwn bellach yn dosbarthu bagiau gwyrdd i gyflenwyr.
Os ydych chi'n defnyddio biniau ailgylchu cymunedol, nid oes angen i chi ddefnyddio bagiau gwyrdd mwyach. Gellir rhoi deunyddiau ailgylchu sych yn rhydd yn y biniau.
