Eitemau plastig a chaniau
Mae eitemau plastig, caniau, a Tetra Pak yn mynd yn eich sach goch.
Casgliad bob wythnos.
Defnyddiwch hwn ar gyfer
- Poteli pethau ymolchi plastig, megis siampŵ a jel cawod
- Poteli glanhau plastig, megis poteli cannydd a chwistrellwyr
- Poteli diodydd plastig, megis poteli llaeth, poteli dŵr a photeli diodydd meddal
- Cynwysyddion plastig, megis cynwysyddion ffrwythau, potiau iogwrt a hambyrddau teisennau
- Cartonau a chaeadau cludfwyd plastig
- Erosolau gwag megis diaroglyddion
- Caniau diodydd metel, megis caniau cwrw a diodydd meddal
- Tuniau bwyd metel, megis tuniau ffa a chawl
- Tetra Pak
- Ffoil a chartonau ffoil glân
Peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer
- Bagiau siopa neu fin plastig
- Plastigau meddal, fel cling film neu orchudd plastig
- Deunydd lapio caws neu fagiau bara
- Pecynnau creision
- Pacedi bwyd anifeiliaid anwes
- Pecynnau blister plastig, fel ar gyfer meddyginiaethau
- Brwshys dannedd neu diwbiau past dannedd
- Raseli neu lafnau raseli
- Tanwyr nwy gwag
- Poteli nwy gwag
- Plastigau caled, megis teganau plant
- Potiau planhigion
- Cynwysyddion Tupperware
- Metel solet, fel sosbenni, cyfarpar a chyllyll a ffyrc
