Mae casgliadau hylendid bob wythnos.
Gallwch gofrestru ar gyfer casgliadau hylendid os yw eich cartref yn defnyddio:
- cewynnau,
- padiau anymataliaeth oedolion, neu
- leinin gwelyau.
Pan fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth byddwn yn darparu bagiau hylendid porffor i chi.
Nid ydym bellach yn darparu cadis storio melyn. Gallwch ddefnyddio eich cynhwysydd eich hun i storio'r bagiau rhwng casgliadau. Dylid defnyddio cadis er mwyn storio yn unig, peidiwch â rhoi eich cadi allan i'w gasglu.
Gwneud cais am gasgliad
Gallwch wneud cais am gasgliad hylendid drwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2087.
Pan fydd eich cais wedi'i brosesu, byddwn yn danfon eich bagiau hylendid o fewn 7 i 10 diwrnod gwaith.
Gwnewch gais am gasgliad hylendid
Beth sy'n cael ei gasglu?
Rydym yn casglu
- Cewynnau
- Sbwriel sy'n gysylltiedig â newid cewynnau, megis gwlân cotwm, lleiniau gwlyb, sachau cewynnau
- Padiau anymataliaeth
Nid ydym yn casglu
- Cathetrau
- Bagiau stoma/Colostomi*
- Plastrai a rhwymynnau
- Nodwyddau*
- Gwastraff Glanweithiol
- Chwyd
- Ysgarthion anifeiliaid
* Gweler eitemau clinigol a meddygol
* Eitemau clinigol a meddygol
I gael gwared ar eich bagiau stoma neu golostomi a chathetrau'n ddiogel ac yn lanwaith, rhowch gynnwys y bag yn eich toiled, lapiwch y bag a'i roi yng ngwastraff cyffredinol eich cartref i'w gasglu.
Nodwyddau neu chwistrelli
Bydd angen i chi drefnu casgliad nwyddau miniog gyda'ch bwrdd iechyd lleol. Nid yw Cyngor Caerdydd yn casglu nodwyddau neu chwistrelli.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor o ran gwastraff meddygol, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol neu Galw Iechyd Cymru.
Cyflwyno eich gwastraff hylendid i'w gasglu
Gallwch roi eich bagiau hylendid allan i'w casglu, neu gallwn drefnu i'w casglu o leoliad disylw. Gallwch ddewis o ble yr hoffech i'ch bagiau gael eu casglu pan fyddwch yn gwneud cais.
Mae casgliadau hylendid yn wasanaeth wythnosol. Gallwch roi eich bagiau hylendid allan ar bob diwrnod casglu gwastraff. Cewch wybod pryd i roi eich bagiau neu eich biniau allan.
Peidiwch â chadw eich bagiau hylendid mewn cynhwysydd storio wrth eu rhoi allan i'w casglu. Ni fyddwn yn eu casglu o'r tu mewn i'r cynhwysydd.
Gall bagiau gwastraff hylendid fod yn drwm. Rhannwch eich gwastraff hylendid rhwng bagiau i leihau'r pwysau. Gallwch roi cynifer o fagiau allan ag sydd eu hangen arnoch.
Os bydd eich bag yn torri, rhowch y bag diffygiol y tu mewn i un arall.
Os na fyddwch yn rhoi eich bagiau hylendid allan ar gyfer pedwar casgliad yn olynol, byddwch yn cael eich tynnu o'r gwasanaeth. Gallwch ailymgeisio am y gwasanaeth eto ar unrhyw adeg.
Cael mwy o fagiau
Tua diwedd eich rholyn bagiau hylendid, bydd dangosydd i'n criwiau wybod bod angen gadael mwy i chi. Os ydych chi'n rhoi eich gwastraff hylendid allan mewn bag sydd â dangosydd, bydd ein criwiau yn gweld hyn.
Llyfrgell Cewynnau Brethyn Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 143 miliwn o gewynnau untro yn cael eu taflu yng Nghymru bob blwyddyn. Mae cewynnau brethyn amldro yn ddewis arall sy'n cynnig manteision ariannol ac amgylcheddol hirdymor.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar gewynnau brethyn golchadwy, mae gan Gaerdydd Lyfrgell Cewynnau Brethyn sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar ddefnyddio cewynnau amldro. Gellir llogi set o gewynnau brethyn am ffi fechan, gan roi'r cyfle i chi eu treialu am fis.
Am ragor o wybodaeth a diweddariadau am sesiynau sydd ar ddod gan y Llyfrgell Cewynnau, dilynwch Llyfrgell Cewynnau Brethyn Caerdydd ar Facebook neu cysylltwch â [email protected].
