Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Canolfannau ailgylchu

Unig bwrpas canolfannau ailgylchu yw ailgylchu a gwaredu sbwriel o'r cartref a gall preswylwyr Caerdydd eu defnyddio yn rhad ac am ddim.

Dylech ddod â phrawf o archeb a phrawf o gyfeiriad wrth ymweld â chanolfan ailgylchu.

Dylech ond ymweld â chanolfan ailgylchu i gael gwared ar eitemau nad ydych yn gallu eu gwaredu wrth ymyl y ffordd. Darllenwch y telerau ac amodau llawn cyn gwneud archeb.

Dim ond ar gyfer prosiectau DIY bychan y byddwn yn darparu. Bydd gofyn i chi logi sgip neu ddefnyddio safle masnachol ar gyfer prosiectau DIY mwy.

Rhaid bod eitemau swmpus yn gallu ffitio i gist eich car. Ni fydd ein staff yn gallu eich cynorthwyo i ddadlwytho eich car.

Ni allwch ddod â bagiau du heb eu didoli, ailgylchu heb ei ddidoli, na gwastraff adeiladu cymysg i'r ganolfan ailgylchu. Os byddwch yn dod ag unrhyw wastraff heb ei ddidoli, gofynnir i chi agor eich bagiau a didoli unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu.

Cerbydau y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu.

Sawl gwaith allwch chi ymweld â chanolfan?

Gallwch archebu hyd at 26 o ymweliadau âchanolfan ailgylchu y flwyddyn. Bydd angen i chi archebu slot bob tro y byddwch yn ymweld.

Os ydych yn ymweld mewn car, gallwch ddefnyddio eich lwfans yn hyblyg ond ni allwch ymweld fwy na thair gwaith mewn diwrnod.

Os ydych yn ymweld mewn fan, neu gar â threlar, cewch drefnu dim ond un ymweliad y mis.

Cerbydau y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu

Eitemau y gallwch ddod â nhw i ganolfan ailgylchu

Dydyn ni ddim yn derbyn bagiau cymysg o wastraff cyffredinol yn ein canolfannau ailgylchu. Dylech roi'r math hwn o wastraff allan yn eich bin du, neu fagiau du os ydych chi'n eu defnyddio, i'w gasglu o ymyl y ffordd.

Os defnyddiwch chi'r holl wasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd sydd ar gael a'n gwasanaeth casglu hylendid ar gyfer cewynnau a gwastraff anymataliaeth, bydd hyn yn lleihau faint o wastraff cyffredinol rydych chi'n ei gynhyrchu.

Ceisiwch ailgylchu cymaint ag y gallwch yn eich cadi bwyd a'ch bagiau ailgylchu. Os na allwch ymdopi â'ch lwfans gwastraff cyffredinol gallwch ddefnyddio contractwr gwastraff preifat. Bydd angen i chi sicrhau ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig.

Gallwch fynd â'r mwyafrif o eitemau i'r ddwy ganolfan. Gwiriwch cyn ymweld.

  • Batris
  • Beiciau
  • Batris ceir
  • Cardfwrdd
  • Carpedi
  • Deunyddiau ceramig
  • Podiau coffi
  • Cyfrifiaduron
  • Oergelloedd neu Rhewgelloedd
  • Cemegau gardd a'r cartref - rhaid labelu'r rhain yn glir
  • Gwastraff gardd
  • Poteli a jariau gwydr
  • Plastigau Caled
  • Eitemau trydanol mawr, fel peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi ac ati
  • Mattresi
  • Cyfryngau (llyfrau a CDs)
  • Ffonau symudol
  • Paent
  • Papur
  • Bwrdd plastr (rhaid ei dorri i fyny)
  • Rwbel (gan gynnwys pridd) - uchafswm o 6 o fagiau 20KG yr ymweliad. Rhaid tipio bagiau i'r sgip, ac yna mynd â nhw adref.
  • Metel sgrap
  • Dalennau gwydr
  • Carpion papur
  • Offer trydanol bach, fel tegellau, tostwyr, consolau gema
  • Teledu a Sgrinau
  • Tecstilau a sgidiau
  • Teiars (Ffordd Lamby yn unig)
  • Ffenestri UPVC (Ffordd Lamby yn unig)
  • Hen olew ceir (uchafswm o 10 litr).
  • Olew llysiau/coginio

Gwastraff na ellir ei ailgylchu

Os oes gennych eitemau na allwn eu hailgylchu gallwch ddod â nhw i'r safle.

Cyn eu rhoi yn y sgip bydd angen i wasanaethwyr y safle gadarnhau nad oes modd ailgylchu eich eitemau. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio bagiau clir neu gynhwysydd i helpu gyda'r broses hon. Os oes angen i chi ddefnyddio bagiau i gludo'r eitemau, bydd angen i chi eu hagor i ddangos i'n staff. Ni chewch ddefnyddio bagiau gwyrdd y Cyngor.

Mae enghreifftiau o'r deunydd y gellir ei roi yn ein sgip gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cynnwys:

  • Gwastraff anifeiliaid anwes gormodol e.e. gwasarn cathod, sarn anifeiliaid
  • Bleindiau
  • Gwely difan
  • Celfi gardd
  • Polystyren
  • Pecynnu ffilm plastig tenau
  • Drychau
  • Soffas a chadeiriau breichiau
  • Papur Wal
  • Eitemau babi e.e. seddau car, cadeiriau uchel, pramiau neu cadeiriau gwthio
  • Tapiau fideo neu casét

Holwch ein staff os nad ydych chi'n siŵr. Os na fyddwn yn cynnig gwasanaeth ailgylchu i waredu eitem, byddwch yn gallu ei roi yn y sgip gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Asbestos

Gallwch fynd â hyd at ddau sach asbestos i ganolfan ailgylchu Clos Bessemer. Mae angen i chi drefnu apwyntiad cyn i chi ymweld. Os ydych chi'n cael gwared ar asbestos, ni allwch drefnu apwyntiad ar-lein. Bydd angen i chi ein ffonio ar 029 2087 2088 i drefnu apwyntiad.

Sut i gael gwared ar Asbestos.  

Trefnwch ymweliad  

Dylech gofio bod angen inni gau canolfan ailgylchu ar fyr rybudd o bryd i'w gilydd. Os bydd hyn yn digwydd ar benwythnos mae'n bosibl na fydd modd inni ddiweddaru ein gwefan. Dylech ddilyn ein cyfrif ar Twitter neu Facebook er mwyn gweld diweddariadau.

Lawrlwythwch i gael ffordd well o gysylltu â gwasanaethau'r cyngor