Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwastraff gardd

Gwastraff gardd

Gweler yr wybodaeth ddiweddaraf am gasgliadau gwastraff gardd.

Mae deunydd organig megis toriadau gwair, dail a chwyn yn mynd yn eich gwastraff gardd.

Efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd. I gofrestru, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.

Defnyddiwch hwn ar gyfer

  • Toriadau gwair
  • Dail
  • Chwyn
  • Canghennau bach a brigau
  • Planhigion bach
  • Blodau

Peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer

  • Blawd llif
  • Sglodion pren a rhisgl
  • Gwellt
  • Carpion papur
  • Gwastraff anifeiliaid anwes (megis baw anifeiliaid)
  • Cewynnau
  • Pridd neu rwbel
  • Pren neu ddecin
  • Cardfwrdd
  • Potiau blodau
  • Hen offer gardd (megis tryweli, rhawiau a chaniau dyfrio)
  • Gwastraff bwyd
  • Offer trydanol

Eiddo sy'n defnyddio biniau

Os ydych wedi symud i eiddo newydd ac mae angen bin newydd arnoch, neu os oes angen bin newydd arnoch gan fod eich un chi wedi'i golli neu'i ddwyn, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.

Gallwch gael hyd at 2 fin gwyrdd.

Mae biniau'n costio £35 yr un. Gall dosbarthiadau gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith.

Eiddo sy'n defnyddio sachau

Gallwch archebu bagiau y gellir eu hailddefnyddio trwy ffonio Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088.

Gallwch roi uchafswm o 5 sach allan i'w casglu.

Mae sachau'n costio £3.50 yr un. Gall dosbarthiadau gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith.

Os ydych chi eisiau talu gydag arian parod, gallwch fynd i:

  • Hyb y Llyfrgell Ganolog
  • Hyb Grangetown
  • Hyb Ystum Taf a Gabalfa
  • Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan
  • Hyb Powerhouse
  • Hyb Rhydypennau
  • Hyb Llaneirwg