Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Defnydd dros dro ac achlysurol

Cewch hyd i wybodaeth am hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol.

Hysbysiadau defnydd dros dro

Gall gweithredwr gamblo ddefnyddio'r safle at ddibenion gamblo dros dro, pan nad oes trwydded ar waith. Ymhlith y safleoedd all fanteisio ar hyn mae gwestai, canolfannau arddangos, canolfannau cynadleddau a lleoliadau chwaraeon.

Mae'r hysbysiad yn caniatáu gamblo ar y safle am hyd at 21 diwrnod yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis.

Rhaid i'r hysbysiad gael ei gyflwyno i'r awdurdod trwyddedu o leiaf 3 mis ac 1 diwrnod cyn y diwrnod y bydd y digwyddiad gamblo'n cael ei gynnal, a rhaid copïo'r canlynol i mewn:

  • Y Comisiwn Gamblo
  • yr Heddlu
  • Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi; ac, os yn berthnasol
  • unrhyw awdurdod trwyddedu arall yn yr ardal lle mae'r eiddo.

     

    Sut i wneud cais

     

    Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005. (PDF, 515 KB)

     

    Ffurflen gais Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (PDF, 67 KB)

     

    Cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:

     

    Trwyddedu,
    Cyngor Caerdydd,
    Neuadd y Sir,
    Glanfa'r Iwerydd,
    Caerdydd,
    CF10 4UW

     

    Faint fydd cost trwydded?

      Ffioedd a chostau trwyddedau gamblo (PDF, 477 KB)

     

    Gallwch dalu fel a ganlyn:

     

    • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 0300 123 6696)
    • Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')
    • Gallwch hefyd dalu drwy BACS:Cod Didoli 52-21-06 Rhif y Cyfrif. 20408838Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GRRhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.

     

    Hysbysiadau defnydd achlysurol

    Gallwch ddefnyddio hysbysiad defnydd achlysurol os bydd betio'n digwydd am 8 diwrnod neu lai yn ystod y flwyddyn calendr ar y 'trac' ac nad oes trwydded betio trac ar waith.

    Dylai perchennog y lleoliad neu'n gweinyddwr digwyddiadau roi gwybod i awdurdod trwyddedu'r cyngor a'r heddlu. Nid oes modd gwrthwynebu ac nid oes cyfyngiad amser ar roi hysbysiad - gallai gael ei roi ar ddiwrnod y digwyddiad.

     

    Sut i wneud cais

     

    Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005. (PDF, 515 KB)

    Ffurflen gais hysbysiad defnydd achlysurol (PDF, 14 KB)

     

     

     

    Cwblhewch y ffurflen berthnasol a'i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:

    Trwyddedu
    Cyngor Caerdydd
    Neuadd y Ddinas
    Caerdydd
    CF10 3ND

     

    Faint fydd cost hysbysiad?

     

    Gallwch dalu fel a ganlyn:

    • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 0300 123 6696)
    • Arian parod (mewn person yn unig, peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post)
    • Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')
    • Gallwch hefyd dalu drwy BACS:Cod Didoli 30-91-63Rhif y Cyfrif. 01467509Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GRRhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.

     

    Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni.

    Cysylltu â ni

    Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir

    Ffôn: 0300 123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.

    Trwyddedu Cyngor Caerdydd

    Ffôn: 029 2087 1651

    Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.