Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hysbysiadau digwyddiadau dros dro

Os ydych yn trefnu digwyddiad dros dro a'ch bod am weini neu werthu alcohol, cynnig lluniaeth yn yr hwyrnos, neu gyflwyno adloniant wedi'i reoleiddio, bydd angen i chi gwblhau hysbysiad digwyddiad dros dro.

Rhaid cyflwyno hysbysiadau o leiaf ddeng diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad. Nid yw diwrnodau gwaith clir yn cynnwys y diwrnod y daw eich cais i law'r cyngor na dyddiad y digwyddiad. Mae'r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol i hysbysiadau:

  • y cyfnod hiraf a ganiateir ar gyfer unrhyw ddigwyddiad yw 168 awr (saith diwrnod)
  • Ni chaniateir mwy na 15 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro mewn unrhyw safle fesul blwyddyn galendr
  • ni ddylai digwyddiadau bara mwy na 21 o ddiwrnodau mewn un safle
  • rhaid gadael o leiaf 24 awr rhwng Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro ar unrhyw safle
  • ni fydd mwy na 499 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg
  • gall deiliad trwydded bersonol wneud cais am hyd at 50 o Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro mewn unrhyw flwyddyn galendr (gan gynnwys 10 hwyr)
  • ni all deiliad trwydded arall wneud cais am fwy na 5 hysbysiad digwyddiad dros dro mewn unrhyw flwyddyn galendr (gan gynnwys 2 hwyr)

Sylwer bod yn rhaid anfon copi o'r Hysbysiad Amgylcheddol Technegol i adran rheoli llygredd y cyngor ac i'r Heddlu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn anfon yr hysbysiad i'r adran drwyddedu.

Os yw'r HAT yn cael ei gyflwyno ar wefan y llywodraeth , yna nid oes angen i chi anfon y copïau hyn.

Dylid nodi nad yw hysbysiad digwyddiad dros dro yn eithrio'r safle o unrhyw ofynion dan ddeddfwriaeth gynllunio.

Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro Hwyr

Bwriedir i hysbysiadau hwyr gael eu defnyddio gan berchenogion safleoedd y mae'n rhaid iddynt, er enghraifft, newid y lleoliad ar fyr rybudd am resymau y tu allan i'w rheolaeth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid eu defnyddio.

Mae modd dyfarnu hysbysiadau digwyddiadau dros dro hwyr hyd at bum diwrnod gwaith (ond nid yn gynt na 9 diwrnod gwaith) cyn i'r digwyddiad ddechrau.

Sut i wneud cais

Gwneud Cais Ar-lein

Gwneud cais drwy'r post

Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch gopi i bob un o'r canlynol (ffurflen yn unig, aiff unrhyw daliadau i Gyngor Caerdydd):

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW

Prif Swyddog yr Heddlu yn BCU y DwyrainSwyddfa'r Heddlu Bae Caerdydd (Adran Drwyddedu)James StreetCaerdyddCF10 5EW

Rheolwr GweithredolRheoli LlygreddCyngor CaerdyddNeuadd y DdinasCaerdyddCF10 3ND

 

Faint fydd cost trwydded?

 

Ffi hysbysiad digwyddiad dros dro yw £21. Ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (PDF, 268 KB)

 

Gallwch dalu fel a ganlyn: Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 0300 123 6696) Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')Gallwch hefyd dalu drwy BACS:Cod didoli: 52-21-06Rhif cyfrif: 20408838 Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GRRhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.

 

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

 

Unwaith y daw eich cais am hysbysiad digwyddiad dros dro i law, caiff pawb sy'n ei gael 3 diwrnod gwaith i'w wrthwynebu ar sail unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu:

  • atal trosedd ac anrhefn
  • atal niwsans cyhoeddus
  • diogelwch y cyhoedd
  • amddiffyn plant rhag niwed

    Os nad oes gwrthwynebiad, gall y digwyddiad gael ei gynnal fel y bwriadwyd.

    Os oes gwrthwynebiad, byddwn yn trefnu gwrandawiad i ystyried y dystiolaeth a gallwn benderfynu na fydd modd cynnal eich digwyddiad. Os oes gwrthwynebiad i hysbysiad digwyddiad dros dro a gyflwynwyd yn hwyr, ni fydd modd cynnal y digwyddiad.

     

    Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

    Cysylltu â ni

    Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir

    Ffôn: 0300 123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.

    Trwyddedu Cyngor Caerdydd

    Ffôn: 029 2087 1651

    Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.