Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 yn cyfuno'r hen Gyfundrefn Integredig Atal a Rheoli Llygredd a'r Gyfundrefn Rheoli Gwastraff yn un darn o ddeddfwriaeth gyfunol.
Caiff gweithgareddau sydd angen trwydded eu diffinio gan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ac mae'n drosedd i weithredu heb drwydded.
Mae gan Gaerdydd tua 80 o brosesau diwydiannol ar hyn o bryd diwydiannol a reoleiddir gan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Ffoniwch 029 20871142 i gael gwybodaeth am ein cofrestr gyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan DEFRA
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am y trwyddedau canlynol ar-lein:
- Trwydded amgylcheddol rhan A2
- Trwydded amgylcheddol rhan B
- Newid cais am drwydded amgylcheddol
- Tâl cynhaliaeth blynyddol
Mae trwydded amgylcheddol rhan A1 ond ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni
029 2087 1142
