Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gweithredwyr pont bwyso

Mae angen i weithredwyr pontydd pwyso feddu ar dystysgrif cymhwyso gan y Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau. Mae hyn yn sicrhau y gallant gyflawni eu dyletswyddau mewn ffordd gymwys ac onest. Ni all neb weithredu offer pwyso cyhoeddus heb dystysgrif.

Gallwch gael tystysgrif ar ôl cwblhau prawf sylfaenol. Caiff profion eu cynnal dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985.

Sut i wneud cais

I drefnu prawf, cwblhewch y ffurflen gais Gweithredwr Pont Bwyso Cyhoeddus (Word doc, 8 MB) a'i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:

Safonau masnachCyngor CaerdyddNeuadd y SirCaerdyddCF10 4UW

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Iau: 8.30am - 5pm

Dydd Gwener: 8.30am - 4pm

Faint mae'n ei gostio?

Ar hyn o bryd, mae'r ffi i gael tystysgrif yn dibynnu ar y cais, yn ôl argymhelliad Cydlynwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (LACORS)

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cael y ffurflen gais, bydd swyddog o Safonau Masnach Caerdydd yn cysylltu â chi i drefnu amser a dyddiad i'r prawf.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni

Cysylltu â ni

029 2087 3059

Gweler hefyd