Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trwydded casgliadau elusennol

Os ydych yn trefnu casgliad o dŷ i dŷ neu ar y stryd i'ch elusen, bydd angen trwydded arnoch.

Rhaid gwneud ceisiadau o leiaf unwaith y mis cyn y dyddiad casglu a gynigir.

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais dylech ddarllen yr amodau casgliadau o dŷ i dŷ (52kb PDF) - Needs translating neu'r amodau casgliadau elusennol ar y stryd (37kb PDF) - Needs translating.

Gwneud Cais Ar-lein:

Gwneud cais drwy'r post:

Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a'i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW

 

Ynghyd â'r ffurflen gais, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

 

  • llythyr awdurdodi gan yr elusen
  • copi o'r cyfrifon blynyddol a gyhoeddwyd
  • rhan o'u deunydd

 

Faint fydd cost trwydded?

 

Gallwch wneud cais am ddim.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Mae'r rheolau canlynol yn berthnasol mewn casgliadau codi arian:

  • ni chaiff pobl dan 16 oed gasglu arian. Cyfrifoldeb yr hyrwyddwr yw sicrhau na fyddant yn gwneud hyn.
  • rhaid i bob casglwr fod â bocs casglu, y mae'n rhaid ei rifo a'i gau'n ddiogel, a'i selio, fel nad oes modd ei agor heb dorri'r sêl.
  • rhaid i rifau'r bocsys casglu fod yn olynol
  • rhaid i'r holl arian a gesglir yn ystod casgliad gael ei roi ar unwaith mewn bocs casglu
  • rhaid i'r holl focsys ddangos enw'r elusen neu'r gronfa yn glir
  • rhaid agor pob bocs casgliadau ym mhresenoldeb yr hyrwyddwr a rhywun cyfrifol arall, heblaw pan fo'r bocs heb ei agor yn mynd yn syth at y banc. Os felly, caiff y banc gasglu'r bocs casgliadau
  • rhaid i'r unigolyn sy'n agor y bocs gyfri'r cynnwys a nodi swm gyda rhif y bocs casgliadau ar restr, ac mae'n rhaid iddo gadarnhau hynny
  • ni ellir gwneud unrhyw daliadau i unrhyw gasglwr, neu berson, sy'n gysylltiedig â'r casglu, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, onid yw Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo hynny yn y cais
  • os caiff trwydded ei dyfarnu, bydd pob trwyddedai (y person â'r drwydded) yn gyfrifol am gydymffurfio ag amodau'r drwydded.

 

Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir

Ffôn: 0300 123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.

Trwyddedu Cyngor Caerdydd

Ffôn: 029 2087 1651

Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.

Gweler hefyd