Gwybodaeth am drwyddedau triniaethau arbennig a sut i wneud cais am drwydded.
Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn cyflwyno cynllun trwyddedu newydd mewn perthynas â'r triniaethau arbennig canlynol:
- aciwbigo
- tatŵio
- tyllu'r corff, ac
- electrolysis.
Bydd angen i ymarferwyr gael trwydded triniaethau arbennig.
Bydd angen i fusnesau gael tystysgrif cymeradwyaeth ar gyfer eiddo neu gerbydau.
Cyn gwneud cais am drwydded triniaethau arbennig, bydd yn rhaid i ymarferwyr gwblhau Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer triniaethau arbennig.
Darganfyddwch fwy am y cymwysterau sydd eu hangen arnoch ar wefan Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd.
Darllenwch fwy am y gofynion trwyddedu a gyflwynwyd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffioedd a chostau Trwyddedau Cyffredinol.
Gwneud cais
Cwblhewch y ffurflen gais briodol a'i dychwelyd atom yn y post i:
TrwyddeduYstafell 170a, Neuadd y SirGlanfa'r IweryddCaerdyddCF10 4UW
Neu drwy e-bost i [email protected]
Gwneud cais am dystysgrif cymeradwyaeth (PDF, 520 KB)
Gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig (PDF, 405 KB)
Ffioedd ymgeisio
- Trwydded triniaeth arbennig 3 blynedd:ffi ymgeisio o £159, sy'n daladwy ar yr adeg y cyflwynir y cais ffi cydymffurfio o £44, sy'n daladwy ar yr adeg y rhoddir y drwydded
- Tystysgrif cymeradwyo safle / cerbyd 3 blynedd: ffi ymgeisio o £244, sy'n daladwy ar yr adeg y cyflwynir y caisffi cydymffurfio o £141, sy'n daladwy ar yr adeg y rhoddir y drwydded
Taliad
Rydym yn derbyn y dulliau talu canlynol:
- Cerdyn debyd
- Siec (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')
Gallwch hefyd dalu trwy BACS:
- Cod didoli: 52-21-06
- Rhif cyfrif: 20408838
- Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni am gymorth neu gyngor.
Cysylltu â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am help a chyngor.
