Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trwydded safle

Fel Awdurdod Trwyddedu Caerdydd, rydym yn awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol, cynnig adloniant wedi'i reoleiddio a bwyd yn yr hwyrnos (sef bwyd a diod a werthir rhwng 11pm a 5am) o safleoedd.

Mae'r drwydded yn ddilys tra bod yr eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy'n gofyn am drwydded, a chodir ffi flynyddol amdani. Byddwn yn anfon anfoneb atoch i chi ei thalu bob blwyddyn.

Gwneud Cais Ar-lein

Gwneud cais drwy'r post

Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a'i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW

 

Gofynion cais amrywio newydd neu lawn

 

Ynghyd â'r ffurflen gais, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • cynllun o'r safle
  • atodlen gweithredu (disgrifiad byr o sut fydd yr eiddo yn gweithredu'n ddiogel ac yn unol â'r pedwar nod trwyddedu)
  • y ffi gywir
  • Ffurflen ganiatâd gan y Goruchwylydd Safle Dynodedig, os yw'r cais yn ymwneud â chyflenwi alcohol

Os ydych yn gwneud cais drwy'r post, rhaid i chi hefyd anfon copi o'r cais (gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol) i'r awdurdodau cyfrifol ar yr un diwrnod y caiff y cais ei gyflwyno i adran drwyddedu'r cyngor.

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd yr adran drwyddedu'n cyflwyno copïau o'ch cais i'r awdurdodau cyfrifol.

 

Faint fydd cost trwydded?

 

Pennwyd costau ffioedd gan y Llywodraeth Ganolog. Mae'r ffioedd yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig (NDRV) y safle. Gallwch weld pob ffi yn ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (PDF, 268 KB)

Caiff safleoedd heb NDRV eu rhoi ym Mand a at ddibenion ffioedd trwyddedu. Caiff safleoedd sy'n cael eu hadeiladu ac sydd heb eu hasesu gan y VOA eu hystyried yn eiddo Band C.

Gallwch dalu fel a ganlyn:

  • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 029 20871651)
  • Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')
  • BACS:Cod Didoli 52-21-06 Rhif y Cyfrif. 20408838Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-Frenhines, Caerdydd, CF10 2GRRhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

 

Y cyfnod ymgynghori ar gyfer ceisiadau grant/amrywio llawn yw 28 diwrnod wedi i'r cais ddod i law. Os na chawn sylwadau perthnasol o fewn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno'r drwydded.

Rhaid i sylwadau ymwneud ag un neu fwy o'r amcanion trwyddedu, sef:

  • atal trosedd ac anrhefn

  • atal niwsans cyhoeddus

  • diogelwch y cyhoedd

  • amddiffyn plant rhag niwed

    Os cawn sylwadau perthnasol am y cais gan awdurdodau cyfrifol neu bobl eraill, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu'r cyngor yn ystyried y cais ac yn cynnal gwrandawiad o fewn 20 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Efallai na fydd angen gwneud hyn os gall y ceisydd ddod i gytundeb â'r gwrthwynebwyr cyn y gwrandawiad.

    Os cynhelir gwrandawiad, gall y drwydded gael ei dyfarnu, neu ei dyfarnu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau y mae angen eu trwyddedu yn y cais gael eu heithrio, neu gall y cais gael ei wrthod. Byddwn yn anfon y penderfyniad at y ceisydd ac unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.

     

    Goruchwylydd Eiddo Dynodedig (DPS)

     

    Rhaid cael Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar gyfer unrhyw eiddo lle caiff alcohol ei gyflenwi dan y drwydded eiddo a rhaid i'w enw ymddangos ar y drwydded. Caiff ei enwi yn yr amserlen gweithredu o ran unrhyw safle â thrwydded safle.

    Ni fydd y DPS o reidrwydd yr un person â deiliad trwydded y safle. Ef fydd y pwynt cyswllt i'r awdurdod trwyddedu o ran yr eiddo bob amser, neu'r heddlu neu'r gwasanaeth tân os oes problemau yn yr eiddo.

     

    Os hoffech gael rhagor o wybodaeth,cysylltwch â ni

    Cysylltu â ni

    Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir

    Ffôn: 0300 123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.

    Trwyddedu Cyngor Caerdydd

    Ffôn: 029 2087 1651

    Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.