Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adroddiad parcio blynyddol 2022 i 2023

Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach. Mae ein cynlluniau i wella trafnidiaeth yn y ddinas wedi'u nodi yn ein Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd. Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn y ffordd iawn yn rhan allweddol o hyn.

Mae ein hadroddiad parcio blynyddol yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn cefnogi ein gwasanaethau a'n gweithgareddau gorfodi.

Gorfodaeth parcio

Mae gorfodi cyfyngiadau parcio yn ein helpu i fynd i'r afael ag unrhyw barcio anghyfreithlon ac anystyriol yn y ddinas.

Yn dibynnu ar y math o dramgwydd, mae gwahanol ddirwyon parcio ar waith:

  • £70 am dramgwyddau lefel uwch, neu,
  • £50 ar gyfer tramgwyddau lefel is.

Os byddwch yn talu Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn brydlon, bydd y tâl yn gostwng gan 50%. Os byddwch yn anwybyddu HTC, bydd y tâl yn cynyddu.

Rhwng 2022 a 2023 fe wnaethom gyhoeddi 88,644 o HTCau parcio

Rhwng 2022 a 2023, y pum tramgwydd parcio mwyaf cyffredin oedd: 

CodTramgwyddHTCau a gyflwynwydLefel Cosb
12Parcio mewn mannau parcio i breswylwyr heb drwydded, neu heb arddangos trwydded yn glir.18,499Uwch - £70
01Parcio ar linellau melyn a strydoedd cyfyngedig.13,382Uwch - £70
02Parcio mewn ardal gyda chyfyngiadau llwytho.4,620Uwch - £70
06Parcio mewn man talu ac aros heb docyn, neu'r tocyn heb ei arddangos yn glir.4,517Uwch - £70
27Parcio wrth ymyl cwrbyn cyrbau isel.4,475Uwch - £70


Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.

Gorfodi lonydd bysus a thraffig yn symud

Rydym yn gorfodi cyfyngiadau mewn lonydd bysus i leihau oedi a gwneud teithio ar fysiau yn fwy effeithlon. Mae hyn yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn helpu traffig i lifo'n haws o amgylch y ddinas.

Rydym yn cyhoeddi HTCau i yrwyr sy'n mynd yn groes i rai cyfyngiadau traffig symudol, fel:

  • troadau gwaharddedig
  • mynediad cyfyngedig, a
  • chyffyrdd sgwâr.

Dim ond drwy CCTV y gellir gorfodi tramgwyddau lonydd bysus a thraffig symudol.

Y gosb am bob tramgwydd lôn fysus a thraffig sy'n symud yw £70. Bydd hyn yn gostwng i £35 os ydych yn talu'r gosb o fewn 21 diwrnod.

Rhwng 2022 a 2023 cyhoeddwyd y canlynol:

  • 38,886 HTC lonydd bysus, a
  • 63,281 HTC traffig symudol.

Rhwng 2022 a 2023, y pum tramgwydd lonydd bysus a thraffig symudol oedd: 

CodTramgwyddHTCau a gyflwynwyd
34Bod mewn lôn fysus.36,886
31Bod mewn cyffordd bocs20,691
51Troi i'r chwith lle na chaniateir troi i'r chwith.12,414
50RTroi i'r dde lle na chaniateir troi i'r dde.12,208
50LTroi i'r chwith lle na chaniateir troi i'r chwith.6457


Gallwch Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.

Heriau, sylwadau ac apeliadau

Os yw gyrwyr yn derbyn HTC ond nad ydynt yn credu y dylent dalu'r ddirwy, dylent ysgrifennu atom i esbonio pam. Byddwn yn ystyried y rhesymau y maent wedi'u rhoi ac yn penderfynu a ddylem ganslo'r HTC.

Heriau anffurfiol

Gallwch wneud her anffurfiol i'n penderfyniad o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r HTC gael ei roi i chi.

Sylwadau ffurfiol

Gallwch wneud sylwadau'n ffurfiol os cyflwynwyd Hysbysiad i Berchennog i chi, neu os ydych wedi derbyn HTC drwy'r post.

Rhwng 2022 a 2023, nifer yr heriau anffurfiol a ffurfiol a gawsom oedd:

MathWedi dod i lawCanran y HTCau a gafodd eu canslo*Canran y HTCau a orfodwyd
Anffurfiol12,47257%43%
Ffurfiol22,11672%28%


*nid yw hyn bob amser yn golygu bod gorfodi wedi cael ei atal, gan y gallai HTC newydd fod wedi'i gyfeirio at rywun arall. Er enghraifft, os cafodd y cerbyd ei logi gan rywun arall.

Os gwrthodwn eich sylwadau ffurfiol, mae gennych hawl i apelio i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Rhwng 2022 a 2023 nifer yr achosion a aeth at y dyfarnwr oedd: 

 

 Tramgwydd parcioTramgwydd lonydd bysusTramgwydd traffig sy'n symud
Cyfanswm Apeliadau1103060
Enillwyd gan y Cyngor822249
Collwyd gan y Cyngor28811

 


Gallwch ddarllen mwy am heriau anffurfiol a sylwadau ffurfiol yma.

Bathodynnau glas

Mae bathodynnau glas yn rhoi manteision parcio i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae nifer o fannau parcio bathodyn glas pwrpasol yn y ddinas. Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan yrwyr anabl am fan bathodyn glas y tu allan i'w cartref.

Rhwng 2022 a 2023, fe wnaethom gyflwyno 97 o fannau anabl newydd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun bathodyn glas yma.

Gorfodi bathodynnau glas

Mae camddefnyddio bathodyn glas yn drosedd. Rydym yn gorfodi camddefnydd bathodynnau glas i sicrhau nad yw gyrwyr sy'n cam-drin y cynllun yn amharu ar bobl anabl.

Rhwng 2022 a 2023 nifer y bathodynnau glas a wiriwyd gan arolygwyr oedd:

GorfodiSwm
Gwirio bathodynnau glas4,475
Nifer y bathodynnau glas a atafaelwyd75
Achosion a aeth i'r llys25
Rhybudd i droseddwyr25
Dirwy ar gyfartaledd£502.41


Y lleoliadau lle roedd y lefelau uchaf o gamddefnyddio bathodynnau glas oedd:

  • Ffordd Churchill,
  • Lôn Windsor, a
  • Plas Windsor.

Y tri phrif fath o gamddefnyddio bathodynnau oedd:

  • Defnyddio bathodyn glas pan nad oedd deiliad y bathodyn yn bresennol.
  • Bathodynnau wedi dod i ben.
  • Bathodynnau'n cael eu defnyddio ar ôl i ddeiliad y bathodyn farw.

 

Trwyddedau

Rydym yn defnyddio cynlluniau parcio trwyddedau mewn ardaloedd lle mae galw mawr am barcio. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod digon o lefydd parcio i breswylwyr.

Rydym hefyd yn cyhoeddi trwyddedau mynediad ar gyfer rhai cyfyngiadau traffig sy'n symud, fel Strydoedd Ysgol. Gallwch ddarllen mwy am ein Cynllun Strydoedd Ysgol yma.

Rhwng 2022 a 2023 y nifer a'r mathau o drwyddedau a gyhoeddwyd gennym oedd:

Math o drwyddedTrwyddedau a gyflwynwyd
Preswylydd22,106
Ymwelydd8,470
Stryd Ysgol491
Busnes103
Meddyg30
Gofalwr108
Contractwr83

 

Talu ac aros

Rydym yn gweithredu parcio talu ac aros mewn meysydd parcio ac ar strydoedd ar hyd a lled y ddinas.

Rhwng 2022 a 2023, nifer y tocynnau a werthwyd a'r incwm a gynhyrchwyd ganddynt oedd:

LleoliadTocynnau a werthwydIncwm
Ar y stryd989,333£3,925,707
Meysydd parcio1,072,587£1,209,722
Cyfanswm2,061,920£5,135,429

Mae ein peiriannau talu yn derbyn cardiau ac arian parod. Gallwch hefyd dalu am barcio drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth MiPermit.

Rhwng 2022 a 2023, y dulliau talu oedd:

Dull TaluCanran y taliadau a gymerwyd
Cerdyn32%
Arian parod8%
MiPermit22%
Arosiadau am ddim38%

 

Clampio a symud

Rhaid i bob cerbyd a gofrestrir yn y DU gael ei drethu'n gywir os yw'n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Byddwn yn clampio ac yn symud cerbydau nad ydynt wedi eu trethu'n gywir.

Rhwng 2022 a 2023 nifer y cerbydau a gafodd eu clampio neu eu hatafaelu oedd:

Camau gweithreduNifer y cerbydau
Clampio911
Atafaelu204

O'r 911 o gerbydau a gafodd eu clampio:

  • Cafodd 65% eu rhyddhau,
  • Cafodd 24% eu hatafael, a
  • Cafodd clampiau 11% o gerbydau eu dwyn.

O'r 204 o gerbydau a gafodd eu hatafael:

  • Cafwyd gwared â 156, a
  • Cafodd 48 eu rhyddhau.

Cafwyd hyd i'r nifer uchaf o gerbydau heb eu trethu yn:

  • Plasnewydd,
  • Cathays, a
  • Glan-yr-Afon.

 

Defynyddio incwm

Defnyddir unrhyw incwm sy'n deillio o ffioedd a gorfodaeth parcio yn unol ag Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Gellir defnyddio unrhyw arian a godir o dan yr adran hon ar gyfer:

  • prosiectau priffyrdd a ffyrdd
  • gwella'r amgylchedd, a
  • gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Rhwng 2022 a 2023, ein hincwm parcio oedd:

Sut y cynhyrchwyd yr incwmSwm
Parcio ar y stryd£4,110,000
Meysydd parcio£1,199,00
Trwyddedau£367,000
HTCau Parcio£2,203,000
HTCau lonydd bysus a thraffig sy'n symud£4,101,000
Arall*£106,000
Cyfanswm incwm£12,087,000

*er enghraifft:

  • ffioedd am Fathodynnau Glas newydd,
  • ceisiadau am Orchmynion Rheoli Traffig, a
  • gwasanaethau parcio eraill.
  • Rhwng 2022 a 2023, ein gwariant oedd:
Ein gwariantSwm
Costau gweithredu£666,000
Gwasanaethau Gorfodi£5,998,000
Cyfanswm gwariant£6,658,000


Rhwng 2022 a 2023, gwarged ein hincwm parcio oedd: 

GwargedSwm
Cyfanswm gwarged£5,429,000
Cyfrannu at gynlluniau yn unol ag adran 55 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd£6,392,000
Cyfraniad i'r Cyfrif Parcio Wrth Gefn-£963,000