Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach. Mae ein cynlluniau i wella trafnidiaeth yn y ddinas wedi'u nodi yn ein Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd. Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn y ffordd iawn yn rhan allweddol o hyn.
Mae ein hadroddiad parcio blynyddol yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn cefnogi ein gwasanaethau a'n gweithgareddau gorfodi.
Gorfodaeth parcio
Mae gorfodi cyfyngiadau parcio yn ein helpu i fynd i'r afael ag unrhyw barcio anghyfreithlon ac anystyriol yn y ddinas.
Yn dibynnu ar y math o dramgwydd, mae gwahanol ddirwyon parcio ar waith:
- £70 am dramgwyddau lefel uwch, neu,
- £50 ar gyfer tramgwyddau lefel is.
Os byddwch yn talu Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn brydlon, bydd y tâl yn gostwng gan 50%. Os byddwch yn anwybyddu HTC, bydd y tâl yn cynyddu.
Rhwng 2021 a 2022 fe wnaethom gyhoeddi 75,574 o HTCau parcio
Rhwng 2021 a 2022, y pum tramgwydd parcio mwyaf cyffredin oedd:
| Cod | Tramgwydd | HTCau a gyflwynwyd | Lefel Cosb |
|---|---|---|---|
| 12 | Parcio mewn mannau parcio i breswylwyr heb drwydded, neu heb arddangos trwydded yn glir. | 18,754 | Uwch - £70 |
| 01 | Parcio ar linellau melyn a strydoedd cyfyngedig. | 11,802 | Uwch - £70 |
| 02 | Parcio mewn ardal gyda chyfyngiadau llwytho. | 4,620 | Uwch - £70 |
| 06 | Parcio mewn man talu ac aros heb docyn, neu'r tocyn heb ei arddangos yn glir. | 4,517 | Uwch - £70 |
| 27 | Parcio wrth ymyl cwrbyn cyrbau isel. | 4,475 | Uwch - £70 |
Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.
Gorfodi lonydd bysus a thraffig yn symud
Rydym yn gorfodi cyfyngiadau mewn lonydd bysus i leihau oedi a gwneud teithio ar fysiau yn fwy effeithlon. Mae hyn yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn helpu traffig i lifo'n haws o amgylch y ddinas.
Rydym yn cyhoeddi HTCau i yrwyr sy'n mynd yn groes i rai cyfyngiadau traffig symudol, fel:
- troadau gwaharddedig
- mynediad cyfyngedig, a
- chyffyrdd sgwâr.
Dim ond drwy CCTV y gellir gorfodi tramgwyddau lonydd bysus a thraffig symudol.
Y gosb am bob tramgwydd lôn fysus a thraffig sy'n symud yw £70. Bydd hyn yn gostwng i £35 os ydych yn talu'r gosb o fewn 21 diwrnod.
Rhwng 2021 a 2022 cyhoeddwyd y canlynol:
- 48,410 HTC lonydd bysus, a
- 58,457 HTC traffig symudol.
Rhwng 2021 a 2022, y pum tramgwydd lonydd bysus a thraffig symudol oedd:
| Cod | Tramgwydd | HTCau a gyflwynwyd |
|---|---|---|
| 34 | Bod mewn lôn fysus. | 33,803 |
| 33W | Defnyddio llwybr wedi'i gyfyngu i gerbydau penodol | 14,468 |
| 50R | Troi i'r dde lle na chaniateir troi i'r dde. | 13015 |
| 51 | Methu â chydymffurfio â chyfyngiad dim mynediad. | 10460 |
| 50L | Troi i'r chwith lle na chaniateir troi i'r chwith. | 5745 |
Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.
Heriau, sylwadau ac apeliadau
Os yw gyrwyr yn derbyn HTC ond nad ydynt yn credu y dylent dalu'r ddirwy, dylent ysgrifennu atom i esbonio pam. Byddwn yn ystyried y rhesymau y maent wedi'u rhoi ac yn penderfynu a ddylem ganslo'r HTC.
Heriau anffurfiol
Gallwch wneud her anffurfiol i'n penderfyniad o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r HTC gael ei roi i chi.
Sylwadau ffurfiol
Gallwch wneud sylwadau'n ffurfiol os cyflwynwyd Hysbysiad i Berchennog i chi, neu os ydych wedi derbyn HTC drwy'r post.
Rhwng 2021 a 2022, nifer yr heriau anffurfiol a ffurfiol a gawsom oedd:
| Math | Wedi dod i law | Canran y HTCau a gafodd eu canslo* | Canran y HTCau a orfodwyd |
|---|---|---|---|
| Anffurfiol | 11,114 | 59% | 41% |
| Ffurfiol | 18,912 | 73% | 27% |
*nid yw hyn bob amser yn golygu bod gorfodi wedi cael ei atal, gan y gallai HTC newydd fod wedi'i gyfeirio at rywun arall. Er enghraifft, os cafodd y cerbyd ei logi gan rywun arall.
Os gwrthodwn eich sylwadau ffurfiol, mae gennych hawl i apelio i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig.
Rhwng 2021 a 2022 nifer yr achosion a aeth at y dyfarnwr oedd:
| Tramgwydd parcio | Tramgwydd lonydd bysus | Tramgwydd traffig sy'n symud | |
|---|---|---|---|
| Cyfanswm Apeliadau | 77 | 35 | 85 |
| Enillwyd gan y Cyngor | 49 | 20 | 59 |
| Collwyd gan y Cyngor | 28 | 15 | 26 |
Gallwch ddarllen mwy am heriau anffurfiol a sylwadau ffurfiol yma.
Bathodynnau glas
Mae bathodynnau glas yn rhoi manteision parcio i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae nifer o fannau parcio bathodyn glas pwrpasol yn y ddinas. Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan yrwyr anabl am fan bathodyn glas y tu allan i'w cartref.
Rhwng 2021 a 2022, fe wnaethom gyflwyno 79 o fannau anabl newydd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun bathodyn glas yma.
Gorfodi bathodynnau glas
Mae camddefnyddio bathodyn glas yn drosedd. Rydym yn gorfodi camddefnydd bathodynnau glas i sicrhau nad yw gyrwyr sy'n cam-drin y cynllun yn amharu ar bobl anabl.
Rhwng 2021 a 2022 nifer y bathodynnau glas a wiriwyd gan arolygwyr oedd:
| Gorfodi | Swm |
|---|---|
| Gwirio bathodynnau glas | 3,081 |
| Nifer y bathodynnau glas a atafaelwyd | 76 |
| Achosion a aeth i'r llys | 36 |
| Rhybudd i droseddwyr | 34 |
| Dirwy ar gyfartaledd | £409.31 |
Y lleoliadau lle roedd y lefelau uchaf o gamddefnyddio bathodynnau glas oedd:
- Ffordd Churchill,
- Lôn Windsor, a
- Plas Windsor.
Y tri phrif fath o gamddefnyddio bathodynnau oedd:
- Defnyddio bathodyn glas pan nad oedd deiliad y bathodyn yn bresennol.
- Bathodynnau wedi dod i ben.
- Bathodynnau'n cael eu defnyddio ar ôl i ddeiliad y bathodyn farw.
Trwyddedau
Rydym yn defnyddio cynlluniau parcio trwyddedau mewn ardaloedd lle mae galw mawr am barcio. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod digon o lefydd parcio i breswylwyr.
Rydym hefyd yn cyhoeddi trwyddedau mynediad ar gyfer rhai cyfyngiadau traffig sy'n symud, fel Strydoedd Ysgol. Gallwch ddarllen mwy am ein Cynllun Strydoedd Ysgol yma.
Rhwng 2021 a 2022 y nifer a'r mathau o drwyddedau a gyhoeddwyd gennym oedd:
| Math o drwydded | Trwyddedau a gyflwynwyd |
|---|---|
| Preswylydd | 25,006 |
| Ymwelydd | 13,056 |
| Stryd Ysgol | 329 |
| Busnes | Dd/B |
| Meddyg | 39 |
| Gofalwr | 562 |
| Contractwr | 18 |
Talu ac aros
Rydym yn gweithredu parcio talu ac aros mewn meysydd parcio ac ar strydoedd ar hyd a lled y ddinas.
Rhwng 2021 a 2022, nifer y tocynnau a werthwyd a'r incwm a gynhyrchwyd ganddynt oedd:
| Lleoliad | Tocynnau a werthwyd | Incwm |
|---|---|---|
| Ar y stryd | 836,717 | £3,089,648 |
| Meysydd parcio | 953,001 | £799,951 |
| Cyfanswm | 1,789,718 | £3,889,599 |
Mae ein peiriannau talu yn derbyn cardiau ac arian parod. Gallwch hefyd dalu am barcio drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth MiPermit.
Rhwng 2021 a 2022, y dulliau talu oedd:
| Dull Talu | Canran y taliadau a gymerwyd |
|---|---|
| Cerdyn | 32% |
| Arian parod | 11% |
| MiPermit | 15% |
| Arosiadau am ddim | 42% |
Clampio a symud
Rhaid i bob cerbyd a gofrestrir yn y DU gael ei drethu'n gywir os yw'n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Byddwn yn clampio ac yn symud cerbydau nad ydynt wedi eu trethu'n gywir.
Rhwng 2021 a 2022 nifer y cerbydau a gafodd eu clampio neu eu hatafaelu oedd:
| Camau gweithredu | Nifer y cerbydau |
|---|---|
| Clampio | 768 |
| Atafaelu | 197 |
O'r 768 o gerbydau a gafodd eu clampio:
- Cafodd 66% eu rhyddhau,
- Cafodd 26% eu hatafael, a
- Cafodd clampiau 8% o gerbydau eu dwyn.
O'r 93 o gerbydau a gafodd eu hatafael:
- Cafwyd gwared â 150, a
- Cafodd 47 eu rhyddhau.
Cafwyd hyd i'r nifer uchaf o gerbydau heb eu trethu yn:
- Y Rhath
- Cathays
- Glan-yr-Afon
Defynyddio incwm
Defnyddir unrhyw incwm sy'n deillio o ffioedd a gorfodaeth parcio yn unol ag Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Gellir defnyddio unrhyw arian a godir o dan yr adran hon ar gyfer:
- prosiectau priffyrdd a ffyrdd
- gwella'r amgylchedd, a
- gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Rhwng 2021 a 2022, ein hincwm parcio oedd:
| Sut y cynhyrchwyd yr incwm | Swm |
|---|---|
| Parcio ar y stryd | £3,130,000 |
| Meysydd parcio | £808,000 |
| Trwyddedau | £441,000 |
| HTCau Parcio | £1,903,000 |
| HTCau lonydd bysus a thraffig sy'n symud | £3,502,000 |
| Arall* | £30,000 |
| Cyfanswm incwm | £9,814,000 |
*er enghraifft:
- ffioedd am Fathodynnau Glas newydd,
- ceisiadau am Orchmynion Rheoli Traffig, a
- gwasanaethau parcio eraill.
- Rhwng 2021 a 2022, ein gwariant oedd:
| Ein gwariant | Swm |
|---|---|
| Costau gweithredu | £776,000 |
| Gwasanaethau Gorfodi | £6,279,000 |
| Cyfanswm gwariant | £7,055,000 |
Rhwng 2021 a 2022, gwarged ein hincwm parcio oedd:
| Gwarged | Swm |
|---|---|
| Gwarged gweithredol | £2,759,000 |
| Cronfa Galedi Llywodraeth Leol | £983,000 |
| Cyfanswm gwarged | £3,742,000 |
| Cyfrannu at gynlluniau yn unol ag adran 55 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd | £6,293,000 |
| Cyfraniad i'r Cyfrif Parcio Wrth Gefn | £2,551,000 |
