Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adroddiadau parcio blynyddol 2019 i 2020

Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach. Mae ein cynlluniau i wella trafnidiaeth yn y ddinas wedi'u nodi yn ein Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd. Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn y ffordd iawn yn rhan allweddol o hyn.

Mae ein hadroddiad parcio blynyddol yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn cefnogi ein gwasanaethau a'n gweithgareddau gorfodi.

Gorfodaeth parcio

Mae gorfodi cyfyngiadau parcio yn ein helpu i fynd i'r afael ag unrhyw barcio anghyfreithlon ac anystyriol yn y ddinas.

Yn dibynnu ar y math o dramgwydd, mae gwahanol ddirwyon parcio ar waith:

  • £70 am dramgwyddau lefel uwch, neu,
  • £50 ar gyfer tramgwyddau lefel is.

Os byddwch yn talu Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn brydlon, bydd y tâl yn gostwng gan 50%. Os byddwch yn anwybyddu HTC, bydd y tâl yn cynyddu.

Rhwng 2019 a 2020 fe wnaethom gyhoeddi 72,268 o HTCau parcio

Rhwng 2019 a 2020, y pum tramgwydd parcio mwyaf cyffredin oedd:

CodTramgwyddHTCau a gyflwynwydLefel Cosb
12Parcio mewn mannau parcio i breswylwyr heb drwydded, neu heb arddangos trwydded yn glir.17,430Uwch - £70
01Parcio ar linellau melyn a strydoedd cyfyngedig.12,108Uwch - £70
06Parcio mewn man talu ac aros heb docyn, neu'r tocyn heb ei arddangos yn glir.5,824Uwch - £70
27Parcio wrth ymyl cwrbyn cyrbau isel.4,908Uwch - £70
02Parcio mewn ardal gyda chyfyngiadau llwytho.3,753Uwch - £70


Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.

Gorfodi lonydd bysus a thraffig yn symud

Rydym yn gorfodi cyfyngiadau mewn lonydd bysus i leihau oedi a gwneud teithio ar fysiau yn fwy effeithlon. Mae hyn yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn helpu traffig i lifo'n haws o amgylch y ddinas.

Rydym yn cyhoeddi HTCau i yrwyr sy'n mynd yn groes i rai cyfyngiadau traffig symudol, fel:

  • troadau gwaharddedig
  • mynediad cyfyngedig, a
  • chyffyrdd sgwâr.

Dim ond drwy CCTV y gellir gorfodi tramgwyddau lonydd bysus a thraffig symudol.

Y gosb am bob tramgwydd lôn fysus a thraffig sy'n symud yw £70. Bydd hyn yn gostwng i £35 os ydych yn talu'r gosb o fewn 21 diwrnod.

Rhwng 2019 a 2020 cyhoeddwyd y canlynol:

  • 75,927 HTC lonydd bysus, a
  • 65,787 HTC traffig symudol.

Rhwng 2019 a 2020, y pum tramgwydd lonydd bysus a thraffig symudol oedd: 

CodTramgwyddHTCau a gyflwynwyd
34Bod mewn lôn fysus.75,927
31Bod mewn cyffordd sgwâr.22,657
50RTroi i'r dde lle na chaniateir troi i'r dde.15,454
50LTroi i'r chwith lle na chaniateir troi i'r chwith.14,489
51Methu â chydymffurfio â chyfyngiad dim mynediad.9,107


Gallwch ddarllen mwy am y codau a ddefnyddiwn gyda thramgwyddau parcio a thraffig.

Heriau, sylwadau ac apeliadau

Os yw gyrwyr yn derbyn HTC ond nad ydynt yn credu y dylent dalu'r ddirwy, dylent ysgrifennu atom i esbonio pam. Byddwn yn ystyried y rhesymau y maent wedi'u rhoi ac yn penderfynu a ddylem ganslo'r HTC.

Heriau anffurfiol

Gallwch wneud her anffurfiol i'n penderfyniad o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r HTC gael ei roi i chi.

Sylwadau ffurfiol

Gallwch wneud sylwadau'n ffurfiol os cyflwynwyd Hysbysiad i Berchennog i chi, neu os ydych wedi derbyn HTC drwy'r post.

Rhwng 2019 a 2020, nifer yr heriau anffurfiol a ffurfiol a gawsom oedd:

MathWedi dod i lawCanran y HTCau a gafodd eu canslo*Canran y HTCau a orfodwyd
Anffurfiol11,87059%41%
Ffurfiol24,52366%34%

*nid yw hyn bob amser yn golygu bod gorfodi wedi cael ei atal, gan y gallai HTC newydd fod wedi'i gyfeirio at rywun arall. Er enghraifft, os cafodd y cerbyd ei logi gan rywun arall.

Os gwrthodwn eich sylwadau ffurfiol, mae gennych hawl i apelio i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Rhwng 2019 a 2020 nifer yr achosion a aeth at y dyfarnwr oedd:

 Tramgwydd parcioTramgwydd lonydd bysusTramgwydd traffig sy'n symud
Cyfanswm Apeliadau179142147
Enillwyd gan y Cyngor134103111
Collwyd gan y Cyngor453936

 

Gallwch ddarllen mwy am heriau anffurfiol a sylwadau ffurfiol yma.

Bathodynnau glas

Mae bathodynnau glas yn rhoi manteision parcio i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae nifer o fannau parcio bathodyn glas pwrpasol yn y ddinas. Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan yrwyr anabl am fan bathodyn glas y tu allan i'w cartref.

Rhwng 2019 a 2020, fe wnaethom gyflwyno 96 o fannau anabl newydd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun bathodyn glas yma.

Gorfodi bathodynnau glas

Mae camddefnyddio bathodyn glas yn drosedd. Rydym yn gorfodi camddefnydd bathodynnau glas i sicrhau nad yw gyrwyr sy'n cam-drin y cynllun yn amharu ar bobl anabl.

Rhwng 2019 a 2020 nifer y bathodynnau glas a wiriwyd gan arolygwyr oedd:

GorfodiSwm
Gwirio bathodynnau glas1,539
Nifer y bathodynnau glas a atafaelwyd71
Achosion a aeth i'r llys64
Rhybudd i droseddwyr8
Dirwy i droseddwyr56
Dirwy ar gyfartaledd£402


Y lleoliadau lle roedd y lefelau uchaf o gamddefnyddio bathodynnau glas oedd:

  • Ffordd Churchill,
  • Lôn Windsor, a
  • Plas Windsor.

Y tri phrif fath o gamddefnyddio bathodynnau oedd:

  • Defnyddio bathodyn glas pan nad oedd deiliad y bathodyn yn bresennol.
  • Bathodynnau wedi dod i ben.
  • Bathodynnau'n cael eu defnyddio ar ôl i ddeiliad y bathodyn farw.

 

Trwyddedau

Rydym yn defnyddio cynlluniau parcio trwyddedau mewn ardaloedd lle mae galw mawr am barcio. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod digon o lefydd parcio i breswylwyr.

Rydym hefyd yn cyhoeddi trwyddedau mynediad ar gyfer rhai cyfyngiadau traffig sy'n symud, fel Strydoedd Ysgol. Gallwch ddarllen mwy am ein Cynllun Strydoedd Ysgol yma..

Rhwng 2019 a 2020 y nifer a'r mathau o drwyddedau a gyhoeddwyd gennym oedd:

Math o drwyddedTrwyddedau a gyflwynwyd
Preswylydd22,049
Ymwelydd9,877
Stryd Ysgol189
BusnesDd/B
Meddyg43
Gofalwr4
ContractwrDd/B

 

Talu ac aros

Rydym yn gweithredu parcio talu ac aros mewn meysydd parcio ac ar strydoedd ar hyd a lled y ddinas.

Rhwng 2019 a 2020, nifer y tocynnau a werthwyd a'r incwm a gynhyrchwyd ganddynt oedd:

LleoliadTocynnau a werthwydIncwm
Ar y stryd1,185,130£4,929,203
Meysydd parcio1,205,260£1,072,891
Cyfanswm2,390,390£6,002,094

Mae ein peiriannau talu yn derbyn cardiau ac arian parod. Gallwch hefyd dalu am barcio drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth MiPermit .

Rhwng 2019 a 2020, y dulliau talu oedd:

Dull TaluCanran y taliadau a gymerwyd
Cerdyn30%
Arian parod58%
MiPermit12%

 

Clampio a symud

Rhaid i bob cerbyd a gofrestrir yn y DU gael ei drethu'n gywir os yw'n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Byddwn yn clampio ac yn symud cerbydau nad ydynt wedi eu trethu'n gywir.

Rhwng 2019 a 2020 nifer y cerbydau a gafodd eu clampio neu eu hatafaelu oedd:

Camau gweithreduNifer y cerbydau
Clampio418
Atafaelu125

Cafwyd hyd i'r nifer uchaf o gerbydau heb eu trethu yn:

  • Pentwyn,
  • Grangetown, a'r
  • Sblot.

 

Defynyddio incwm

Defnyddir unrhyw incwm sy'n deillio o ffioedd a gorfodaeth parcio yn unol ag Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Gellir defnyddio unrhyw arian a godir o dan yr adran hon ar gyfer:

  • prosiectau priffyrdd a ffyrdd
  • gwella'r amgylchedd, a
  • gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Rhwng 2019 a 2020, ein hincwm parcio oedd:

Sut y cynhyrchwyd yr incwmSwm
Parcio ar y stryd£5,024,000
Meysydd parcio£1,186,000
Trwyddedau£386,000
HTCau Parcio£2,229,000
HTCau lonydd bysus a thraffig sy'n symud£5,648,000
Arall*£14,000
Cyfanswm incwm£14,487,000

*er enghraifft:

  • ffioedd am Fathodynnau Glas newydd,
  • ceisiadau am Orchmynion Rheoli Traffig, a
  • gwasanaethau parcio eraill.
  • Rhwng 2019 a 2020, ein gwariant oedd:

Rhwng 2019 a 2020, gwarged ein hincwm parcio oedd:

Ein gwariantSwm
Costau gweithredu£659,000
Gwasanaethau Gorfodi£6,064,000
Cyfanswm gwariant£6,723,000
GwargedSwm
Cyfanswm gwarged£7,764,000
Cyfrannu at gynlluniau yn unol ag adran 55 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd£7,140,000
Cyfraniad i'r Cyfrif Parcio Wrth Gefn£624,000