Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Strydoedd ysgolion

Mae Strydoedd Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgolion sydd ar gau i gerbydau yn ystod yr amseroedd gollwng a chasglu prysuraf.

Mae hyn er mwyn helpu plant i gael mynediad i'r ysgol yn ddiogel, hyrwyddo teithio llesol a lleihau llygredd aer.

Dim ond cerbydau â thrwydded Stryd Ysgol ddilys y caniateir iddynt fynd i Stryd Ysgol yn ystod yr amseroedd cyfyngedig.

Lleoliadau Strydoedd Ysgol

Mae yna lawer o strydoedd ysgol yng Nghaerdydd, ac mae gan bob un ei chyfeirnod lleoliad ei hun:

Ardal Strydoedd Ysgol SS

Ysgol

Ffyrdd yr Effeithir Arnynt

Amseroedd Cyfyngedig

Cyfeirnod yr Ardal

Ysgol Gynradd Creigiau

Tregarth Close
Tregarth Court

8:30am i 9:30am
3:00pm i 4:00pm

SS1

Ysgol Gynradd Glan yr Afon

Clos Browning

8:30am i 9:30am
2:30pm i 3:30pm

SS2

Ysgol Gynradd Fairoak

Pentyrch Street
Cwmdare Street

8:30am i 9:30am
3:00pm i 4:00pm

SS3

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville

Lôn Heol Casnewydd

8:00am i 9:30am
2:00pm i 4:00pm

SS4

Ysgol Gynradd Bryn Hafod

Blagdon Close
Uphill Road

8:30m i 9:30am
2:30pm i 3:30pm

SS5

Ysgol Gynradd Willowbrook

Bulrush Close

8:30am i 9:30am
3:00pm i 4:00pm

SS6

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr

Coedlan Wordsworth

8:30am i 9:15am
3:00pm i 3:45pm

SS7

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert

Heol Letton

8:30am i 9:30am
3:00pm i 4:00pm

SS8

Ysgol Gynradd Lakeside

Ontario Way
Winnipeg Drive
Manitoba Close

8:30am i 9:30am
3:00pm i 4:00pm

SS9

 

Parth Strydoedd Ysgol SZ

YsgolFfyrdd yr Effeithir ArnyntAmseroedd CyfyngedigCyf. Parth
Ysgol Gynradd Melin GruffyddGlan Y Nant Road
Glan Y Nant Terrace
Davis's Terrace
8:30am i 9:15am
2:45pm i 3:45pm
SZ1
Ysgol Gynradd PencaerauCyntwell Avenue8:30am i 9:15am
2:45pm i 3:45pm
SZ2
Peter Lea Primary SchoolCarter Place8:30am i 9:15am
2:45pm i 3:45pm
SZ3
Llandaff City Church in Wales Primary SchoolHendre Close8:30am i 9:15am
2:45pm i 3:45pm
SZ4
Lansdowne Primary SchoolNorfolk Street
Surrey Street
8:30am i 9:15am
2:30pm i 3:15pm
SZ5
Ysgol Gynradd Coed y GofBramble Close
Lime Grove
8:30am i 9:30am
2:30pm i 3:30pm
SZ6
Rhiwbina Primary SchoolLon Y Dail
Lon Ganol
Lon Ucha
8:30am i 9:15am
3pm i 3:45pm
SZ8
Bryn Y Deryn PRU, Ysgol Gynradd Pwll Coch, a Fitzalan High SchoolLawrenny Avenue
Sudcroft Street
8:15am i 9:15am
2:30pm i 3:45pm
SZ9

 

Ardal Strydoedd Ysgol SA

Ysgol

Ffyrdd yr Effeithir Arnynt

Amseroedd Cyfyngedig

Cyfeirnod yr Ardal

Ysgol Gynradd Kitchener

Railway Terrace

8:15am i 9:15am
2:15pm i 3:15pm

SA2

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul

Stryd Bromsgrove
Maes Oakley
Hewell Street

8:30am i 9:15am
2:30pm i 3:15pm

SA3

 

Trwyddedau stryd ysgol

Gallech fod yn gymwys i wneud cais am drwydded mynediad Stryd Ysgol am ddim ar-lein. Gan eu bod nhw'n ddigidol, ni fydd angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.

Mae trwyddedau Stryd Ysgol yn ddilys am 1 flwyddyn o ddyddiad derbyn y cais.

Telerau ac amodau'n berthnasol.

Ein nod yw adolygu pob cais o fewn 7 diwrnod gwaith

Cofiwch nad trwyddedau parcio yw trwyddedau Stryd Ysgol, ac wrth barcio, rhaid cadw at yr holl gyfyngiadau a allai fod ar waith.

Trwyddedau i Breswylwyr Strydoedd Ysgol

Trwyddedau Blynyddol

Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded Stryd Ysgol os ydych yn byw mewn Stryd Ysgol a bod eich cerbyd wedi'i gofrestru neu'n cael ei gadw yn eich cyfeiriad.

I wneud cais, bydd angen eich cyfeirnod Treth Gyngor arnoch, a chopi o un o'r canlynol:

  • Tystysgrif Cofrestru Cerbyd y DU (Llyfr log V5c)
  • Cytundeb Prydlesu, Cyllido neu Rentu
  • Tystysgrif a Pholisi Yswiriant (gan gynnwys Yswiriant Motability)
  • Cerbydau Cwmni: mae'n rhaid i chi ddarparu llythyr pennawd cwmni o fewn 28 diwrnod i'ch cais i gadarnhau pob un o'r canlynol: eich bod chi'n gyflogai/gyfarwyddwr, eich bod wedi'ch awdurdodi i yrru'r cerbyd, eich bod yn cadw'r cerbyd dros nos yn eich cyfeiriad, rhif cofrestru eich cerbyd ac enw a swydd y person sy'n llofnodi'r llythyr.

Os na allwch ddarparu cyfeirnod Treth Gyngor bydd angen i chi lawrlwytho ein ffurflen gais (PDF), a darparu prawf o'ch cyfeiriad. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i chi gael trwyddedau.  Yna dylid anfon y ffurflen wedi'i chwblhau at [email protected].

Ni fydd angen trwydded Stryd Ysgol arnoch os oes gan eich cerbyd e-drwydded preswyl ddigidol. Nid yw trwyddedau parcio ymwelwyr preswyl yn berthnasol i Strydoedd Ysgol.


Tocynnau Ymwelwyr Brys

Mae gan breswylwyr yr opsiwn i gael hyd at 30 tocyn diwrnod fesul blwyddyn academaidd ar gyfer ymwelwyr sydd angen mynediad mewn argyfwng (megis os oes angen i blymwr fynychu gollyngiad dŵr).

Mae un tocyn yn rhoi mynediad am ddiwrnod llawn i un cerbyd.

Er nad oes terfyn ar nifer y tocynnau brys y gellir eu defnyddio ar unrhyw un adeg, ni ellir eu trosglwyddo o gerbyd i gerbyd.

Pan fydd eich ymwelydd yn cyrraedd, gallwch roi pàs brys am ddiwrnod ar waith drwy'r opsiwn "Gweithredu Trwydded Ymwelwyr" ar eich cyfrif MiPermit.

 

 

Trwyddedau Stryd Ysgol Bathodynnau Glas a Gofalwyr

Deiliaid Bathodyn Glas

Gallwch wneud cais am drwydded eithrio Stryd Ysgol os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas ac os ydych:

  • Yn ddisgybl ysgol sydd mewn Stryd Ysgol
  • Yn riant neu warcheidwad plentyn sy'n mynychu ysgol ar Stryd Ysgol
  • Aelod o staff ysgol sydd mewn Stryd Ysgol
  • Preswylydd Stryd Ysgol ac nad ydych yn berchen ar eich cerbyd eich hun

Bydd angen i chi uwchlwytho prawf o Fathodyn Glas dilys a phrawf eich bod yn bodloni un o'r meini prawf uchod.

Nid oes rhaid i chi fod yn yrrwr neu'n berchennog y cerbyd, gan fod trwyddedau Bathodyn Glas yn berthnasol i unrhyw gerbyd. Fodd bynnag, dim ond pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio er budd deiliad y Bathodyn Glas ar adeg mynd i mewn i Stryd Ysgol y mae'r drwydded yn berthnasol, a rhaid i ddeiliad y Bathodyn Glas gael ei Fathodyn Glas gyda nhw bob amser.


Gofalwyr

Gallwch wneud cais am drwydded eithrio gofalwr Stryd Ysgol os ydych yn darparu gofal rheolaidd i breswylydd Stryd Ysgol.

Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un sy'n gofalu am aelod o'r teulu, partner neu ffrind sydd angen help oherwydd salwch, eiddilwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed ac na all ymdopi heb gymorth o ddydd i ddydd.

I wneud cais am drwydded eithrio gofalwr mae'n rhaid i chi gyflwyno prawf o'r ffaith eich bod yn berchen ar neu'n defnyddio'r cerbyd ar y drwydded (fel eich llyfr log V5c neu eich dogfen yswiriant), ac o leiaf un o'r canlynol:

  • Prawf o gyflogaeth fel gofalwr iechyd proffesiynol
  • Copi o ddogfen sy'n dangos eich bod yn derbyn Lwfans Gofalwr neu fudd-daliadau Credyd Gofalwr; neu,
  • Lythyr wedi'i lofnodi gan y preswylydd yn cadarnhau gofynion gofal. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff pob cais ei ystyried ar ei rinweddau ei hun.

Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu enw a chyfeiriad llawn y preswylydd.

 

 

Trwyddedau Busnes Stryd Ysgol

Gallwch wneud cais am drwydded Stryd Ysgol os ydych yn berchen ar, yn rhedeg neu'n cael eich cyflogi gan Fangre Busnes, Crefyddol neu Gymunedol sydd ar Stryd Ysgol.

I wneud cais, bydd angen i chi ddarparu:

  • Prawf eich bod yn berchen ar neu'n defnyddio'r cerbyd trwydded (fel eich Llyfr Log V5c neu ddogfennau yswiriant), a;
  • Chadarnhad o'r gofyniad am fynediad busnes (prawf perchnogaeth, cerdyn adnabod staff neu lythyr eglurhaol ar bapur pennawd cwmni, wedi ei lofnodi gan berson priodol fel rheolwr)

 

 

Gorfodi

Mae'n drosedd mynd i mewn i stryd ysgol weithredol heb drwydded stryd ysgol ddilys.  Byddwn yn defnyddio camerâu gorfodi i fonitro Strydoedd Ysgol ac yn cyflwyno dirwyon (Hysbysiadau Tâl Cosb) i droseddwyr.

Y ddirwy am y drosedd hon yw £70, wedi'i gostwng i £35 os caiff ei thalu o fewn 21 diwrnod.  Os anwybyddir y ddirwy, bydd y gosb yn cynyddu.  Bydd hawl i apelio os credwch na ddylai'r HTC fod wedi cael ei gyhoeddi.

Bydd gorfodi yn digwydd pan fydd ysgolion ar agor.