Mae'r Cyngor yn gyfrifol am enwi pob ffordd a stryd, ac ar gyfer enwi a rhifo pob eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Ninas a Sir Caerdydd.
Bydd y Post Brenhinol ond yn gallu creu a rhoi cod post i gyfeiriad pan fydd wedi'i enwi a'i rifo gan y Cyngor.
Mae'n rhaid i chi gysylltu â ni i greu neu newid cyfeiriad os ydych yn:
- cynllunio datblygiad newydd,
- yn adeiladu eiddo newydd,
- yn trosi eiddo presennol, neu
- am newid enw eiddo.
Mae'n well i chi roi gwybod i'r Cyngor am ofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosibl.
Bydd methu â gwneud hynny'n golygu na fydd y cyfeiriad a grëir yn gyfeiriad swyddogol. Bydd hyn yn arwain at broblemau.
Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau cludo na gwasanaethau cyfleustodau'n cydnabod y cyfeiriad; a gallai hyn arwain at anawsterau o ran cofrestru i bleidleisio a chael cardiau credyd. Yn fwy na hyn, gall y gwasanaethau Ambiwlans, Tân a'r Heddlu gael trafferth wrth geisio lleoli'r cyfeiriad mewn achos brys.
Dylid nodi hefyd bod gan y Cyngor y grym i weithredu newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â chonfensiynau safonol a bod Polisi'r Cyngor o ran enwi strydoedd a rhifo'n cael ei gynnal.
Sut mae gwneud cais?
Gallwch wneud ceisiadau Enwi Strydoedd a Rhifo ar-lein.
Faint fydd hyn yn costio?
Mae'r ffioedd a restrir isod yn amcan yn unig a chaiff yr union gostau eu cadarnhau unwaith y caiff y cais ei dderbyn.
| Cais Enwi Strydoedd a Rhifo | Cost |
|---|---|
| Newidiadau i eiddo sydd yno eisoes (fesul cyfeiriad/adeilad) | £190 |
| Cyfeiriad newydd / Datblygiad newydd | £190 ac £68 yr uned |
| Creu enw ffordd newydd | £190 ac £68 yr uned |
| Costau ychwanegol ar gyfer datblygiadau / adeilad o fflatiau dros y rhai a restrir uchod | £190 fesul llawr o'r llawr cyntaf ymlaen |
| Costau ychwanegol ar gyfer newidiadau i osodiad Enwi Stryd a Rhifo ar ôl rhoi hysbysiad, gan arwain at ail-gyflwyno'r cyfeirnodau gyda'r diwygiadau | £190 ac £68 yr uned |
| Ailenwi stryd ar gais preswylydd | £190 ac £68 yr uned |
| Cadarnhau cyfeiriad i Gyfreithwyr, Asiantau Chwilio a Thrawsgludwyr | £68 |
Yn ogystal, bydd angen cynnwys cynllun lleoliad â graddfa briodol (i raddfa ddim llai na 1:1250) ac yn achos datblygiad newydd - cynllun gosodiad, sy'n nodi lleoliad yr eiddo mewn perthynas â'r ardal ddaearyddol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi'u nodi.
Unwaith y mae'r broses Enwi Strydoedd a Rhifo wedi dod i ben, byddwch yn derbyn e-bost gyda llythyr cadarnhau.
