Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru i atal beicwyr sy'n reidio'n beryglus neu'n ddiofal ac achosi:
- ofn,
- trallod, neu
- niwsans.
Mae gan Gaerdydd ymgyrchoedd partneriaeth sydd â'r nod o:
- mynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o sgwteri trydan a beiciau pedal â chymorth trydan (EAPCs) nad ydynt yn cydymffurfio, a
- targedu'r defnydd gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon o feiciau oddi ar y ffordd mewn mannau gwyrdd ledled Caerdydd.
Beiciau Pedal Cymorth Trydanol (EAPCs)
Gall EAPCs gael eu reidio'n gyfreithlon gan ddefnyddwyr 14 oed neu hŷn yn unig. Does dim angen trwydded na threth ffordd arnoch i reidio EAPC.
Er mwyn i feic gael ei ddosbarthu fel EAPC, rhaid iddo:
- fod wedi'i ffitio â phedalau sy'n gallu symud y beic yn ei flaen (heb ddefnyddio modur),
- bod ag uchafswm allbwn pŵer o 250 watt, a
- thorri pob cymorth trydanol pan fydd yn cyrraedd cyflymder o 15.5mya.
Dysgwch fwy am ddosbarthiadau EAPC ar y wefan GOV.UK.
Mae pob beic trydan arall yn cael ei ddosbarthu fel beic modur neu foped. I reidio'r beiciau hyn ar ffyrdd cyhoeddus yn gyfreithlon, rhaid iddynt fod:
- wedi'u cofrestru gyda'r DVLA,
- wedi'u trethu,
- wedi'u hyswirio, ac
- yn cael eu defnyddio gan feiciwr sy'n meddu ar y dosbarthiad priodol o drwydded.
Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol os ydych chi'n reidio beic modur neu foped ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr.
Os nad yw beic trydan yn bodloni'r meini prawf EAPC, mae mewn perygl o gael ei atafaelu a'r defnyddiwr mewn perygl o gael ei erlyn. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Heddlu De Cymru.
Rhowch wybod
O dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, mae'n anghyfreithlon gyrru unrhyw gerbyd:
- yn beryglus,
- heb ofal a sylw, neu
- mewn ffordd sy'n achosi ofn, trallod neu niwsans.
Gallwch roi gwybod os ydych chi'n meddwl bod cerbyd neu feic o unrhyw ddisgrifiad yn:
- cael ei ddefnyddio neu ei storio'n anghyfreithlon, neu
- achosi niwsans.
Rhowch gymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys:
- dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad,
- lliw, gwneuthuriad a model, a
- disgrifiad o'r beiciwr neu'r gyrrwr. Er enghraifft, dillad, helmed neu liw gwallt.
Gallwch roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar wefan Heddlu De Cymru.
Gallwch hefyd wneud adroddiad dienw ar wefan CrimeStoppers.
