Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adroddiadau parcio blynyddol 2024 i 2025

Rydym wedi ymrwymo i greu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach. Mae ein cynlluniau i wella trafnidiaeth yn y ddinas wedi'u nodi yn ein Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd. Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn y ffordd iawn yn rhan allweddol o hyn.

Mae ein Hadroddiad Parcio Blynyddol yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn cefnogi ein gwasanaethau a'n gweithgareddau gorfodi.

Rydyn ni'n gweithio ar adroddiad llawn 2024 i 2025 a bydd hwn ar gael cyn gynted â phosibl.

Defynyddio incwm

Defnyddir unrhyw incwm sy'n deillio o ffioedd a gorfodaeth parcio yn unol ag Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Gellir defnyddio unrhyw arian a godir o dan yr adran hon ar gyfer:

  • prosiectau priffyrdd a ffyrdd
  • gwella'r amgylchedd, a
  • gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Rhwng 2024 a 2025, ein hincwm parcio oedd:

Sut y cynhyrchwyd yr incwmSwm
Parcio ar y stryd£5,266,000
Meysydd parcio£1,475,000
Trwyddedau£973,000
HTCau Parcio£3,026,000
HTCau lonydd bysus a thraffig sy'n symud£5,807,000
Arall*£142,000
Cyfanswm incwm£16,688,000


*er enghraifft:

  • ffioedd am Fathodynnau Glas newydd,
  • ceisiadau am Orchmynion Rheoli Traffig, a
  • gwasanaethau parcio eraill.

Rhwng 2024 a 2025, ein gwariant oedd:

Ein gwariantSwm
Costau gweithredu£784,000
Gwasanaethau Gorfodi£6,919,000
Cyfanswm gwariant£7,703,000


Rhwng 2024 a 2025, gwarged ein hincwm parcio oedd: 

GwargedSwm
Cyfanswm gwarged£8,986,000
Cyfrannu at gynlluniau yn unol ag adran 55 y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd£8,036,000
Cyfraniad i'r Cyfrif Parcio Wrth Gefn£950,000