Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trwydded caffi stryd

Bydd angen i fusnesau ddilyn gofynion y Canllaw Dylunio Caffi Stryd (PDF, 2 MB) a'r Telerau ac Amodau diwygiedig (PDF, 581 KB).  Gall busnesau gael trwydded Caffi Stryd drwy wneud cais ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi ac yn annog pobl i ddarparu caffis stryd, gan eu bod yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddelwedd y stryd drwy ychwanegu bywiogrwydd, lliw, bywyd a diddordeb ati.

Er hynny, mae'n bwysig eu bod yn cael eu gweinyddu a'u rheoli'n gywir er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau uchel a ddisgwylir yng Nghaerdydd. Am y rheswm hwn, rhaid i chi gael trwydded gan y Cyngor yn y lle cyntaf cyn y gallwch chi agor caffi stryd ar briffordd.

Mae angen trwydded caffi stryd ar unrhyw gaffis, bwytai, tafarndai neu sefydliadau arlwyo eraill sy'n gweini bwyd a diod ar y safle.

Cost

Cost am drwyddedau caffi stryd
LleoliadCost fesul metr sgwâr
Lôn y Felin, canol y ddinas£90
Unrhyw leoliad arall£70

Sut i wneud cais

Gallwch chi wneud cais am drwydded caffi stryd ar-lein . Efallai y bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf.

At ddibenion pennu'r ffi, tybir bod gan fainc safonol 3 sedd.

Rhaid i chi ddarllen y Telerau ac Amodau diwygiedig (PDF, 581 KB) cyn gwneud cais.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i gais ddod i law, bydd ein Swyddogion Priffyrdd yn ei asesu ac os caiff y cais ei gymeradwyo dan delerau Deddf Priffyrdd 1980, mae gan y Cyngor ddyletswydd i hysbysebu ceisiadau am drwyddedau caffis stryd am o leiaf 28 diwrnod drwy arddangos hysbysiadau yn ardal y caffi stryd arfaethedig. Mae'r hysbysiadau hyn yn cynnwys manylion am y cynigion ac yn gwahodd sylwadau gan bobl y gallai'r caffi stryd effeithio arnynt.

Os yw'r cyfnod 28 diwrnod wedi dod i ben ac mae'r cais yn cael ei gymeradwyo, cewch chi wybodaeth am sut mae talu mewn e-bost. Nid yw trwydded yn ddilys cyn y telir y taliad llawn.

Cosbau

Mae cyfarwyddwr y cwmni neu'r cynrychiolydd awdurdodedig yn gyfrifol am sicrhau y glynir at yr holl Telerau ac Amodau diwygiedig (PDF, 581 KB).  Pan ddaw i'r amlwg bod trosedd wedi'i chyflawni mewn perthynas â chaffi stryd, efallai y bydd mesurau gorfodi ac erlyniad.Pan fo busnesau'n methu â chydymffurfio, efallai byddwn yn mynd â'r byrddau a'r cadeiriau oddi ar y briffordd.

Cysylltu â ni