Rydym yn gwneud Gorchymyn Rheoli Traffig Dros Dro (GRhTDD) yn ôl yr angen i stopio neu gyfyngu ar draffig cerbydau a/neu gerddwyr ar hyd y briffordd.
Ble mae GRhTDDau yn cael eu defnyddio?
Gellir gwneud cais am GRhTDDau ar gyfer ffyrdd, troedffyrdd neu Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTCau). Gallwn wneud GRhTDD:
- ar gyfer sefyllfa a gynlluniwyd, neu Hysbysiad Brys os oes angen cyfyngiad ar unwaith ar gyfer sefyllfa nas cynlluniwyd.
- i alluogi gwaith hanfodol ar y briffordd, fel gosod neu gynnal a chadw gwasanaethau fel nwy, trydan neu ddŵr
- ar gyfer gwaith ger y briffordd fel datblygiadau mawr.
Mathau cyffredin o GRhTDDau:
- Cau ffyrdd
- Cyfyngiad aros
- Cyfyngiadau pwysau
- Gwaharddiadau Parcio a Lonydd Bws
Gallant hefyd fod ar ffurf:
- Gwahardd troi
- Cyfyngiad unffordd
- Cyfyngiad cyflymder neu
- Wahardd mynediad
Sut mae gwneud cais?
Gwnewch cais Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro ar-lein .
Faint fydd y gost?
| Math o GRhTDD | Fee |
|---|---|
| Hysbysiad brys | £3,000 |
| Gorchymyn 18 mis | £3,800 |
| Digwyddiad cymunedol (llai na 500 o bobl yn mynychu) | £1,000 |
| Digwyddiad mawr (dros 500 o bobl yn mynychu) | £2,000 |
Beth sy'n digwydd nesaf?
Pa fyddwch yn cyflwyno eich cais, bydd angen iddo gael ei asesu'n gyntaf i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi'u cwblhau. Pan fydd eich cais wedi ei gymeradwyo, a'r broses GRhTDD wedi ei chwblhau, byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost gyda'r dogfennau a'r llythyr eglurhaol.
