Mae beiciau modur yn cynnig cludiant personol effeithlon a fforddiadwy i lawer o bobl yn ardal Caerdydd. Fodd bynnag, beicwyr modur yw'r grŵp uchaf eu risg ar y ffordd.
Mae amrywiol adnoddau a chyrsiau hyfforddi yn bodoli i alluogi beicwyr profiadol i wella eu sgiliau a chadw'u hunain yn ddiogel, neu i helpu cyd feicwyr modur a fu mewn damwain.
Bike Safe Cymru
Mae BikeSafe yn fenter gaiff ei chynnal gan Luoedd yr Heddlu o amgylch y Deyrnas Unedig sy'n gweithio gyda holl gymuned y beiciau modur i leihau nifer y gyrwyr beiciau modur gaiff eu hanafu. Drwy drosglwyddo eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, gall beicwyr modur yr heddlu eich helpu i ddod yn yrrwr mwy cymwys.
Mae hwn yn gwrs undydd, a gaiff ei gynnal ar ddydd Sadwrn, a chaiff llefydd gymhorthdal gan Gyngor Caerdydd fel rhan o Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru.
Ewch i wefan BikeSafe am fwy o wybodaeth.
Scooter Smart a Commuter Safe
Mae'r cynllun Scooter Smart and Commuter Safe hwn yn derbyn cymhorthdal gan Gyngor Caerdydd fel rhan o Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru ac o'r herwydd mae ar gael am ddim. Mae'n cynnwys diwrnod hyfforddi 7 awr, sy'n dechrau gyda thrafodaeth grŵp yn y dosbarth a chyflwyniad, a gaiff ei arwain gan y cyfranogwyr ond sydd hefyd yn cynnwys pynciau megis:
- Trylifo,
- Defnyddio Lonydd Bysiau,
- cyffyrdd,
- SMIDSYs (the 'Sorry Mate I Didn't See You' syndrome),
- safle,
- sgiliau arsylwi,
- gyrru amddiffynnol a mwy.
Caiff gweddill y diwrnod ei dreulio allan ar y ffordd.
I gadw lle ar un o'r cyrsiau hyn cysylltwch â www.1stclassrider.co.uk.
Biker Down
Mae Biker Down yn gwrs gaiff ei redeg gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae wedi ei anelu yn bennaf at y gymuned beiciau modur gyda'r ffocws ar gyfrannu at leihau nifer y bobl a gaiff eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn damweiniau beiciau modur.
Caiff y cwrs ei gynnal gan Ymladdwyr Tân Gweithredol ac mae tri modiwl iddo.
- Rheoli Safle Damwain
- Cymorth Cyntaf
- Gwyddoniaeth Cael eich Gweld
Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth well i gyfranogwyr o'r hyn y dylid ei wneud os dônt ar draws gwrthdrawiad ffordd a sut i'w reoli yn ddiogel.
Am fyw o wybodaeth ewch i dudalen gwybodaeth Biker Down ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Cardiau Crash
Mae'r rhain o faint cerdyn credyd ac yn cynnwys gwybodaeth elfennol am y beiciwr i helpu'r Gwasanaethau Brys.
Caiff y cerdyn ei gadw yn leinin ochr dde'r helmed ac fe'i nodir gan sticer smotyn gwyrdd a gaiff ei roi fel rhan o'r cynllun. Mae'r cardiau hyn ar gael am ddim gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a Hyfforddiant.
Mae hwn yn gynllun Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru a gaiff ei gefnogi gan MAG, awdurdodau lleol Cymru, y gwasanaethau Ambiwlans, Tân ac Achub a'r Heddlu.
