Anogir pob ysgol i ddatblygu a rhoi cynlluniau teithio ysgol ar waith sydd yn anelu i:
- Leihau tagfeydd traffig ger ysgolion.
- Cynyddu diogelwch personol disgyblion a rhieni ar eu ffordd i'r ysgol ac wrth adael yr ysgol.
- Cynnig dewis dull amgen o deithio i blant a rhieni.
- Lleihau'r perygl o dderbyn anaf mewn gwrthdrawiad.
- Gwella iechyd a ffitrwydd.
- Ateb anghenion disgyblion ysgol drwy nodi'r problemau a wynebir ganddynt ar eu ffordd i'r ysgol.
- Datblygu annibyniaeth a hyder disgyblion.
- Lleihau cylch dieflig teithio i'r ysgol (h.y. Mae rhieni ag ofn perygl traffig - rhieni yn gyrru eu plant/disgyblion i'r ysgol - traffig yn cynyddu - rhieni ag ofn perygl traffig).
Datblygu Cynllun Teithio Ysgol
Does dim angen i ddatblygu CTY fod yn broses hir a chymhleth, oherwydd bydd cynnwys y cynllun yn amrywio yn ôl anghenion penodol ysgolion unigol. Yn ddelfrydol dylai'r CTY fod yn ddogfen fyw, h.y. un fydd yn amodol ar newid a gwelliannau.
Gallai cynllun nodweddiadol gynnwys y penawdau canlynol:
- Cyflwyniad - Beth yw CTY a pham fod ei angen ar eich ysgol.
- Disgrifiad byr o'r ysgol - Bydd hyn yn cynnwys nifer y disgyblion, lleoliad yr ysgol, dalgylch ac unrhyw ffactorau perthnasol all effeithio ar deithio i'r ysgol.
- Prawf o ymgynghori - Bydd hyn yn ymwneud ag arolygon teithio ysgol a neu holiaduron.
- Mesurau a gynigir gydag amcanion a thargedau - Gallai'r rhain gynnwys mesurau arafu traffig, cyfleusterau croesi mwy diogel, llwybrau beicio a mesurau adferol eraill.
- Rhaglen waith - Pryd fydd yr ysgol yn cymryd camau a pha gamau sydd eu hangen gan yr awdurdod lleol.
- Cynlluniau monitro ac adolygu - Sut caiff y newidiadau eu monitro a sut yr adroddir arnynt.
Os hoffech wybodaeth ychwanegol am gynlluniau teithio ysgol cysylltwch â'r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a Hyfforddiant neu ffoniwch 029 2078 8521.
