Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hyfforddiant beicio i blant

Cynigiwn Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i holl ysgolion cynradd Caerdydd.

Safon Genedlaethol lefel 1

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwirio eich beic a'ch dillad
  • sicrhau bod eich helmed yn ffitio
  • esgyn a dod oddi ar eich beic
  • cychwyn ac aros yn ddiogel
  • rheoli eich beic, a
  • a rheoli'r beic wrth arwyddo, ac edrych yn ôl.

Caiff yr hyfforddiant ei wneud mewn amgylchedd sydd yn rhydd o draffig

Safon Genedlaethol lefel 2

Disgwylir i'r hyfforddeion ddod i gasgliadau a gwneud penderfyniadau ar gyffyrdd ac ar ffyrdd sydd â thraffig wrth droi i'r dde ac i'r chwith.

Mae gwisgo helmed feicio yn orfodol ar bob un o'n cyrsiau hyfforddi beicio.

Os ydych yn aelod o staff ysgol ac am wybodaeth bellach neu am archebu cwrs ar gyfer eich ysgol, cysylltu â ni neu ffoniwch 029 2078 8528.

Cyrsiau gwyliau

Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi Dysgu Beicio a Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i blant yn ystod gwyliau ysgol.

Cysylltu â ni

Os hoffech wybodaeth bellach neu i gadw lle ar gwrs, cysylltu â ni drwy ebost neu drwy'r ffurflen yma.

Cysylltu â ni