Mae'r gwasanaeth cyn ymgeisio CCDC yn wasanaeth disgresiynol a gynigir i drafod gofynion draenio eich safle a'r wybodaeth y mae angen ei chyflwyno gyda'ch cais CCDC.
Rydym yn argymell yn gryf bod datblygwyr yn ystyried ymgysylltu'n gynnar yn ystod y cam dylunio cysyniadol/cyn cais er mwyn lleihau'r gost, lleihau oedi wrth ddatblygu, osgoi unrhyw addasiadau yn y dyfodol i gynlluniau safle a sicrhau bod y cynigion yn unol â safonau statudol Llywodraeth Cymru.
Bydd manteision y pecyn cyn cais yn dibynnu ar lefel yr wybodaeth a gyflwynir i'r swyddog CCDC. Mae gwybodaeth allweddol a fyddai o fudd ar gyfer trafodaeth cyn ymgeisio gynhyrchiol yn cynnwys:
- Manylion amodau tiroedd ac unrhyw ymchwiliadau safle a gwblhawyd.
- Manylion topograffi safle
- Manylion cyrsiau dŵr sydd yno a ffiniau'r safle
- Manylion unrhyw amgylcheddau sensitif y gallai'r datblygiad effeithio arnyn nhw
- Asesiad o'r risg presennol o lifogydd o bob ffynhonnell.
- Cynllun yn nodi'r ardal anhydraidd ar hyn o bryd (os yw'r tir eisoes wedi ei ddatblygu)
- Cynllun draenio dalgylch ar gyfer y datblygiad a'r datblygiad arfaethedig
- Manylion y llwybrau llif naturio ar hyd y tir
- Datganiad cydymffurfio â'r Safonau ac Egwyddorion Cenedlaethol
Argymhellir yn gryf eich bod yn ymgysylltu â pheiriannydd sydd â chymwysterau addas i'ch helpu i ddatblygu eich cynigion ar gyfer y safle.
Ffioedd/taliadau cyn ymgeisio
Rydym wedi rhannu ein gwasanaeth cyn ymgeisio yn ddau becyn:
| Maint y datblygiad | Ffi | Allbynnau |
|---|---|---|
| Mân Ddatblygiadau (1-9 o anheddau, rhwng 100m² a 999m²) | £355 |
|
| Datblygiadau Mawr (10-24 o anheddau, rhwng 1,000m² a 1, 999m²) | £747 |
|
| Datblygiad Mawr Iawn (mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²) | £1,092 |
|
| Maint y datblygiad | Ffi | Allbynnau |
|---|---|---|
| Mân Ddatblygiadau (1-9 o anheddau, rhwng 100m² a 999m²) | £628 |
|
| Datblygiadau Mawr (10-24 o anheddau, rhwng 1,000m² a 1, 999m²) | £865 |
|
| Datblygiad Mawr Iawn (mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²) | £1,442 |
|
| Maint y datblygiad | Ffi | Allbynnau |
|---|---|---|
| Pob Datblygiad | £173 yr ymweliad | Bydd angen talu cost yr ymweliad safle yn ogystal â phecyn cyn ymgeisio. Mae'r gost yn cynnwys treuliau teithio. |
| Maint y datblygiad | Ffi | Allbynnau |
|---|---|---|
| Pob Datblygiad | £115 yr awr | Ymateg technegol i gwestiwn penodol. Nid yw hyn yn rhan o'r Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio. |
*Codir tâl am oriau ychwanegol fesul awr.
Byddwn yn darparu'r gwasanaethay disgresiynol hyn o fewn 28 diwrnod wedi cyflwyno'r dogfennau a'r ffioedd cysylltiedig. Rhaid talu'r ffioedd llawn o flaen llaw ac ni roddir ad-daliadau. Codir TAW hefyd ar wasanaethau disgresiynol.
Sylwer: Mae'r gwasanaeth hwn ar wahân i'r gwasanaeth ymgeisio cyn cynllunio
Sut mae gwneud cais am gyngor cyn ymgeisio?
- Canllawiau i gwblhau'r ffurflen SDCau cyn ymgeisio (PDF, 274 KB)
- Ffurflen cyn ymgeisio SDCau (PDF, 709 KB)
E-bostiwch [email protected] i drefnu cyfarfod â Chorff Cymeradwyo CCDC.
