Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Graffiti

Mae graffiti'n anghyfreithlon ac yn difetha'r amgylchedd lleol. Cewch eich erlyn o dan Ddeddf Droseddol 1971 os cewch eich dal.

Ein cyfrifoldebau

Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb i gael gwared ar graffiti oddi ar:

  • Adeiladau cyhoeddus
  • Henebion
  • Celfi stryd (meinciau ac ati)

Dydyn ni ddim yn gyfrifol am

  • Blychau ffôn
  • Llochesau bysus
  • Blychau trydan
  • Hysbysfyrddau

Cyfrifoldeb y cwmni a'u gosododd yno yw'r rhain. Bydd angen i chi gysylltu â'r cwmni priodol:

Hysbysfyrddau (hysbysfyrddau hysbysebu)- mae enw'r cwmni hysbysfyrddau yn cael ei arddangos ar yr hysbysfwrdd a gellir cysylltu â'r cwmni'n uniongyrchol.

Nid ein cyfrifoldeb ni yw adeiladau preifat. Fodd bynnag, gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, rydym weithiau'n helpu i gael gwared ar graffiti oddi ar adeiladau preifat.

Ein hymateb i adroddiadau am graffiti

Ein nod yw:

  • Cael gwared ar graffiti nad yw'n dramgwyddus o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Cael gwared ar graffiti hiliol neu dramgwyddus o fewn 24 awr waeth beth yw'r sefyllfa o ran perchnogaeth tir.

Os tybiwch eich bod wedi gweld graffiti y gellid ei alw'n drosedd casineb gallwch ddweud wrthym amdano ar-lein. Canfod mwy am adrodd ar droseddau casineb.

Rhowch wybod am graffiti

Llenwch y ffurflen a rhowch gymaint o wybodaeth â phosib am leoliad y graffiti. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ni ddod o hyd iddo. Gall y wybodaeth gynnwys:

  • Enw'r ffordd
  • Tirnodau
  • Cyfeirnod ar bostyn lamp
  • Enw neu rif yr adeilad