Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sbwriela

Gall sbwriel gynnwys yr holl fathau o eitemau megis pecynnau losin, pecynnau bwyd brys a hefyd stympiau blwch llwch a gwm cnoi.

Beth gallwch chi adrodd amdano

Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym am:
 

  • sbwriel yn casglu y tu allan i eiddo, neu
  • symiau sylweddol o sbwriel ar y stryd.

Sylwch ein bod yn casglu symiau bach o sbwriel ar ein rowndiau glanhau strydoedd rheolaidd.

 

Rhoi gwybod am problem sbwriel wedi cronni

Dirwyon Sbwriela

Os bydd swyddog gorfodi gwastraff yn eich gweld yn sbwriela byddwch yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £150. Byddwch hefyd yn derbyn HCB os gwelwch chi'n sbwriela o gerbyd.

Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig gallwch dalu â cherdyn credyd neu ddebyd yn ddiogel ar-lein. Cyn i chi ddechrau bydd angen i sicrhau fod rhif eich Hysbysiad Cosb Benodedig wrth law gennych.

talu ar-lein

Mae gennych 14 diwrnod i dalu hysbysiad cosb benodedig. Os na fyddwch yn talu, gallem ni gymryd camau cyfreithiol pellach trwy'r Llys Ynadon.

Ni allwch herio Hysbysiad Cosb Benodedig gyda'r Cyngor. Os teimlwch na ddylech chi fod wedi derbyn yr hysbysiad, cewch gyfle i anghytuno trwy'r Llys Ynadon.