Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig gallwch dalu â cherdyn credyd neu ddebyd yn ddiogel ar-lein. Cyn i chi ddechrau bydd angen i sicrhau fod rhif eich Hysbysiad Cosb Benodedig wrth law gennych.
Mae gennych 14 diwrnod i dalu hysbysiad cosb benodedig. Os na fyddwch yn talu, gallem ni gymryd camau cyfreithiol pellach trwy'r Llys Ynadon.
Ni allwch herio Hysbysiad Cosb Benodedig gyda'r Cyngor. Os teimlwch na ddylech chi fod wedi derbyn yr hysbysiad, cewch gyfle i anghytuno trwy'r Llys Ynadon.
