Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Trosedd casineb

Gall trosedd casineb fod yn eiriol neu'n gorfforol, gall gynnwys bygythiad neu sarhad ar sail oed, Anabledd, Ethnigrwydd, Daliadau Crefyddol neu Ddiffyg Crefydd, Rhyw, Hunaniaeth o ran Rywedd neu Gyfeiriadedd Rhywiol.

Gall trosedd casineb fod yn weithred droseddol y mae'r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn barnu eu bod wedi digwydd yn sgil rhagfarn a chasineb.

Yn aml, fydd pobl ddim yn adrodd am droseddau casineb. Mae hyn yn caniatáu i'r troseddwyr barhau'n rhydd i droseddu. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef o drosedd casineb, sicrhewch fod yr awdurdodau perthnasol yn gwybod. Drwy adrodd am y troseddau hyn, gellir cofnodi faint ohono sydd yn digwydd yng Nghaerdydd, a pha fath o ddigwyddiadau ydyn nhw. Gall hyn sicrhau y targedir adnoddau yn effeithiol i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Mae rhagor o wybodaeth am droseddau casineb ar wefan Heddlu De Cymru.

Adrodd am Drosedd Casineb

Os ydych mewn perygl uniongyrchol ffoniwch yr Heddlu ar 999 (materion nad ydynt yn argyfyngus 101).

Gallwch riportio trosedd casineb ar-lein gan ddefnyddio Victim Support. Gallwch roi gwybod yn ddienw os oes angen.

Gallwch hefyd gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr 24 awr y dydd ar 0300 30 31 982.