Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Canolfan ymateb i larymau

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi datblygu Canolfan Ymateb i Larymau Categori 1 flaengar a chyfoes. Oddi yma mae'r tîm Gwasanaethau 24/7 sy'n rheoli:

Logo Canolfan Derbyn Larymau

  • Teleofal Caerdydd,
  • Concierge Tai a Wardeiniaid Lleol, ynghyd â
  • Gwasanaethau Diogelwch ac Ymateb yn gweithredu.

Mae'r system Teledu Cylch Cyfyng yn monitro ardaloedd cymunedol o ystafell reoli ganolog gyda thîm cyfeillgar cymwys.

Mae camerâu yn cael eu rheoli a'u monitro mewn amser real, ac mae hyn yn galluogi ymateb priodol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r camera hefyd yn recordio ac mae'r deunydd ffilm ar gael ar gyfer tystiolaeth, yn unol â gofynion deddfwriaethol.

Mae camerâu cylch wedi dod yn fesur pwysig wrth atal trosedd ac ar gyfer diogelwch. Mae camerâu'n coladu delweddau a drosglwyddir at ddyfais recordio lle y maen nhw ar gael i'w gwylio, eu hadolygu ac/neu eu cadw.

Mae cadw delweddau yn golygu bod modd eu dadansoddi ar ôl digwyddiadau sydd o gymorth i'r sefydliadau gorfodi'r gyfraith sy'n eu harchwilio ac mae'n helpu i gadw manwl gywirdeb y cytundebau tenantiaeth ar ran y cyngor.

Nod y ARC yw creu amgylchedd mwy diogel a dymunol i holl breswylwyr 9 High Rise a Litchfield Court heb gyfaddawdu eu hawliau am breifatrwydd.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau 24/7