Cynhyrchir Canllawiau Cynllunio Ategol i roi manylion pellach ar bolisïau a chynigion penodol sydd yng Nghynllun Datblygu Caerdydd. Maent yn helpu i sicrhau y caiff polisïau a chynigion penodol eu deall yn well a'u gweithredu'n effeithiol.
Nid oes gan Ganllawiau Cynllunio Ategol yr un statws neu'r un gwerth â pholisïau Cynllun Datblygu a fabwysiadwyd. Ond, mae'r Llywodraeth yn dweud y gallant gael eu hystyried fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Ar ôl CDLl yn ddiweddar ar 28 Ionawr, 2016, bydd rhaglen o ddiweddaru ac adolygu Canllawiau Cynllunio Ategol a gymeradwywyd yn flaenorol sy'n seiliedig ar y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mhroses Archwilio'r CDLl - Yn ogystal ag eraill a nodwyd yn fwy diweddar fel blaenoriaethau. Unwaith y mae'r Canllawiau Cynllunio Ategol diweddaraf wedi'u paratoi, byddant yn cymryd lle Canllawiau Cynllunio Ategol blaenorol sy'n ymwneud â'r pwnc hwnnw.
Y brif sail polisïau ar gyfer asesu datblygiad cynigion fydd polisïau a chanllawiau Cenedlaethol ynghyd â p holisïau a nodir yn y CDLl. Ond, cyn i'r Canllawiau Cynllunio Ategol diweddaraf gael eu paratoi, bydd yn parhau i fod yn ystyriaeth i'r broses Rheoli Datblygu, lle ystyrir bod y Canllawiau Cynllunio Ategol cyfredol yn gyson â'r fframwaith polisïau CDLl newydd .
Dyma restr o CCAau a gymeradwywyd
- Dyluniad ac Arwyddion Blaen Siop (Mehefin 2019) (PDF, 3 MB)
- Addasu i Fflatiau (Mawrth 2019) (PDF, 871 KB)
- Llety Myfyrwyr (Mawrth 2019) (PDF, 1 MB)
- Archeoleg ac Ardaloedd Archeolegol Sensitif (Gorffennaf 2018) (PDF, 3 MB)
- Cyfleusterau Gofal Plant (Tachwedd 2017) (PDF, 585 KB)
- Canllaw Dylunio Canol y Ddinas Medi 94 (Ar gais)
- Briff Cynllunio Ardal Dumballs Road Mehefin (2006) (PDF, 1 MB)
- Defnyddiau Bwyd, Diod a Hamdden (Tachwedd 2017) (PDF, 1 MB)
- Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Lleol (Ionawr 2017) (PDF, 1 MB)
- Tai Amlfeddiannaeth - Canllawiau Cynllunio Atodol (Hydref 2016) (PDF, 2 MB)
- Cynllunio ar gyfer Iechyd (Tachwedd 2017) (PDF, 1 MB)
- Rhwymedigaethau Cynllunio Caerdydd (Ionawr 2017) (PDF, 1 MB)
- Canllaw cynlluni atodol CCA addysg (2023) (PDF, 74 KB) - Mae'r memorandwm hwn yn ategu adran Ysgolion ac Addysg Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Rhwymedigaethau Cynllunio. Mae'n rhoi gwybodaeth am ffigurau cyfraniad gwaelodlin adran 106 wedi'u diweddaru y bydd y Cyngor yn eu defnyddio wrth gyfrifo cyfraniadau gan ddatblygwyr ar gyfer darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd yn y ddinas, wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
- Rheoli Effeithiau Trafnidiaeth - Cynnwys Safonau Parcio (Gorffennaf 2018) (PDF, 1 MB)
- Celf Gyhoeddus (Mehefin 06) (PDF, 4 MB)
- Canllaw Dylunio Adeiladau Uchel (Ionawr 2017) (PDF, 4 MB)
- Estyniadau a Newidiadau i Safleoedd Preswyl (Tachwedd 2017) (PDF, 1 MB)
- Canllaw Dylunio Adeiladau Uchel (Ionawr 2017) (PDF, 4 MB)
- Diogelu Busnesau a Thir Diwydiannol a Safleoedd (Tachwedd 2017) (PDF, 9 MB)
- Cyfleusterau Casglu a Storio Gwastraff Mawrth (Hydref 2016) (PDF, 1 MB)
Cynnig y Cabinet
Tan fod y dogfennau terfynol ar gael cyfeiriwch at bapurau'r Cyngor.
Arfarniadau Ardal Gadwraeth
Mae cyfres o Arfarniadau Ardal Gadwraeth wedi'u mabwysiadu ac ar gael i'w gweld. Mae'r dogfennau'n nodi'r hyn sy'n arbennig am bob ardal ac yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar y rheolaethau sydd ar waith.
