Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio. Mae'r gofrestr yn cael ei diweddaru'n fisol.
Mwy o wybodaeth am y gofrestr etholiadol.
Y gofrestr etholiadol lawn
Mae'r gofrestr etholiadol lawn yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio. Ni ellir ei gwerthu i unrhyw un. Byddai eich manylion ond yn cael eu defnyddio at ddibenion etholiadol neu'n cael eu rhoi i eraill er mwyn:
- atal a chanfod troseddau
- galw arnoch i wasanaethu ar reithgor
- gwirio ceisiadau am fenthyciadau neu gredyd
Ni roddir y gofrestr etholiadol lawn i adrannau eraill y Cyngor. Os ydych chi wedi symud, bydd angen i chi gysylltu ag adrannau eraill y cyngor i roi gwybod iddyn nhw.
Pwy all gael mynediad i'r gofrestr lawn
Yn ôl y gyfraith, dim ond rhai pobl a sefydliadau all gael copi o'r gofrestr lawn, a dim ond am resymau penodol y gallant ei defnyddio. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ymgeiswyr ac asiantau etholiadol
- Aelodau Etholedig (y Senedd, Senedd y DU a'r Cyngor) Cynghorau cymuned
- Asiantaethau heddlu a throseddu
- Asiantaethau gwirio credyd
- Cyrff swyddogol, fel y Comisiwn Etholiadol, y Comisiwn Ffiniau, a'r gwasanaeth rheithgor.
Caniateir i unrhyw un edrych ar y gofrestr lawn o dan oruchwyliaeth, ond ni chaniateir iddynt wneud copi ohoni. Cyhoeddir y gofrestr etholiadol unwaith y flwyddyn. Pan gaiff ei chyhoeddi caiff y gofrestr flaenorol ei rhewi a chopi rhwymedig ei anfon i'r archif. Caiff rhain eu stori ar ein rhan gan Archifau Morgannwg.
Gweld y Polisi Mynediad Archifau Morgannwg (56kb DOC).
Gallwch ymweld ag Archifau Morgannwg yn:
Clos Parc Morgannwg
Lecwydd
Caerdydd
CF11 8AW
I gael rhagor o wybodaeth am weld y gofrestr etholiadol:
- darllenwch Bolisi Preifatrwydd y Gwasanaethau Etholiadol, neu
- cysylltwch gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.
Y gofrestr agored
Mae'r gofrestr agored yn fersiwn o'r gofrestr etholiadol y gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu.
Gallwch optio allan o'r gofrestr agored pan fyddwch chi'n cofrestru i bleidleisio.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ac yn dymuno tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored, cysylltwch â ni.
Y canfasiad blynyddol
O fis Gorffennaf bob blwyddyn, rydym yn cysylltu ag aelwydydd i gadarnhau bod y manylion sydd ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Yr enw ar hyn yw canfasiad blynyddol. Byddwn yn cysylltu â chi:
- drwy'r post, neu
- dros e-bost, os gwnaethoch ddarparu eich cyfeiriad e-bost pan wnaethoch chi gofrestru i bleidleisio.
Pan fyddwch chi'n derbyn eich llythyr neu e-bost, dywedwch wrthym pwy sy'n byw yn eich cyfeiriad.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â ni.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Post:
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
