Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cofrestru i bleidleisio gydag amgylchiadau arbennig

Mae rhai amgylchiadau lle y gallai fod angen trefniadau arbennig ar gyfer cofrestru a phleidleisio. Er enghraifft:

  • nid oes gennych gyfeiriad sefydlog na pharhaol
  • rydych chi'n pryderu bod eich manylion am ymddangos ar y gofrestr etholiadol am resymau diogelwch
  • rydych chi'n aelod o'r lluoedd arfog, neu eu priod neu bartner sifil cofrestredig

Dim cyfeiriad sefydlog na pharhaol

Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen cofrestru i bleidleisio os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog neu barhaol, ei llenwi, ei llofnodi, a'i hanfon atom.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gofrestru i bleidleisio os ydych:

  • yn ddigartref neu heb gyfeiriad sefydlog,
  • yn berson sydd wedi ei gadw yn y ddalfa, ond nid ydych eto wedi eich dyfarnu'n euog o unrhyw drosedd, neu
  • yn glaf mewn ysbyty iechyd meddwl

Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.

Pleidleisio'n ddienw

Gallwch gofrestru i bleidleisio'n ddienw os ydych yn poeni bod eich enw a'ch cyfeiriad am ymddangos ar y gofrestr etholiadol am resymau diogelwch.

Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen cofrestru i bleidleisio'n ddienw, ei llenwi, ei llofnodi, a'i hanfon atom.

Ni fydd eich enw na'ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion i unrhyw un, oni bai ei bod yn ofynnol i wneud hynny'n gyfreithiol.

Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.

Rydych chi yn y lluoedd arfog

Os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog, yn blentyn i aelod o'r lluoedd arfog, neu'n briod ag neu'n bartner sifil cofrestredig i aelod o'r lluoedd arfog, gallwch gofrestru i bleidleisio.

Gallwch gofrestru ar-lein.

Mae'r ffurflen yn caniatáu i chi gael eich cofrestru am 5 mlynedd mewn cyfeiriad sefydlog yn y DU hyd yn oed os ydych chi'n symud o gwmpas.

Rhaid i chi adnewyddu eich cais bob 5 mlynedd, ond gallwch ei ganslo unrhyw bryd. Mae cofrestru fel pleidleisiwr o'r Lluoedd Arfog yn arbennig o ddefnyddiol os ydych wedi'ch lleoli dramor neu'n credu y gallech gael eich anfon dramor yn ystod y blynyddoedd nesaf.


Cofrestru drwy'r post

Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen cofrestru i bleidleisio (lluoedd arfog), ei llenwi, ei llofnodi, a'i hanfon atom.

Rydych yn Was y Goron neu'n gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig

Os ydych yn Was y Goron (yn y gwasanaeth diplomyddol neu'r gwasanaeth sifil tramor) neu'n gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig, gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU.

Gallwch gofrestru fel Gwas y Goron neu gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig:

  • os ydych chi'n gweithio y tu allan i'r DU fel Gwas y Goron (e.e. yn y gwasanaeth diplomyddol neu wasanaeth sifil tramor)
  • neu fel cyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig
  • os ydych chi'n briod â neu'n bartner sifil cofrestredig i Was y Goron neu gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig ac yn mynd gyda nhw yn ystod eu cyflogaeth dramor
  • os yw eich rhiant neu'ch gwarcheidwad yn Was y Goron neu'n gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig ac rydych chi'n byw dramor gyda nhw.

Gallwch gofrestru ar-lein (Was y Goron neu'n gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig).


Cofrestru drwy'r post

Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen cofrestru i bleidleisio fel Gwas y Goron neu gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig, ei llenwi, ei llofnodi, a'i hanfon atom.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni.

Ffôn: 029 2087 2088

E-bost: [email protected]

Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW