Wrth bleidleisio'n bersonol yn etholiadau Seneddol y DU neu etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu, bydd angen i chi ddangos ffurf gymeradwy o brawf adnabod ffotograffig.
Nid oes angen prawf adnabod ffotograffig arnoch i bleidleisio yn etholiad Senedd Cymru ddydd Iau 7 Mai.
Pa lun ID allwch ei ddefnyddio
Wrth bleidleisio'n bersonol yn etholiadau Seneddol y DU neu etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu, bydd rhaid i chi ddangos ffurf gymeradwy o brawf adnabod ffotograffig. Er enghraifft, pasbort neu drwydded yrru.
Dim ond dogfennau gwreiddiol sy'n cael eu derbyn. Ni dderbynnir delweddau neu gopïau wedi'u sganio.
Os yw'ch cerdyn adnabod â llun wedi dod i ben, fe'i derbynnir cyn belled â bod y llun yn dal yn ymdebygu i chi. Mae'r ffurfiau adnabod mwayf derbyniol ac a dderbynnir amlaf yn cynnwys:
- Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwlad â statws AEE neu wlad yn y Gymanwlad
- Trwydded yrru ffotograffig a gyhoeddwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE neu wlad yn y Gymanwlad
- Cerdyn adnabod ffotograffig yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
- Cerdyn adnabod ag arno hologram y Cynllun Prawf Oed Safonol (cerdyn PASS)
- Bathodyn Glas
- Pàs Bws Person Hŷn
- Pàs Bws i Berson Anabl
- Cerdyn Oyster 60+
Os ydych yn ansicr a yw ffurf y llun ID sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei dderbyn, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y mathau derbyniol o ID ar wefan GOV.UK.
Neu gallwch gysylltu â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol am help.
Beth i'w wneud os nad oes gennych gerdyn ID â llun cymeradwy
Os ydych chi am bleidleisio'n bersonol ond nad oes gennych brawf adnabod ffotograffig cymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr (TAP) am ddim.
Gwnewch gais ar-lein am TAP ar wefan GOV.UK.
Gallwch hefyd wneud cais am TAP trwy argraffu a llenwi ffurflen bapur a'i anfon at ein tîm Gwasanaethau Etholiadol. I wneud cais am fersiwn bapur o'r ffurflen hon, cysylltwch â ni.
Nid yw TAPau yn dod i ben. Fodd bynnag, dylech adnewyddu eich TAP ar ôl 10 mlynedd i sicrhau bod y llun yn dal i adlewyrchu sut rydych chi'n edrych.
Y dyddiad cau i wneud cais am TAP fydd 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad cyntaf yr hoffech ei defnyddio ynddo.
Fel arall, os nad oes gennych ffurf gymeradwyo o brawf adnabod, gallwch hefyd gofrestru i:
I gael rhagor o wybodaeth am ofynion prawf adnabod pleidleiswyr, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
