Mae democratiaeth yn hanfodol. Dyma flociau adeiladu cymdeithas sy'n sicrhau:
- bod ein hanwyliaid yn cael eu gofalu amdanynt,
- bod ein plant yn cael addysg, a
- bod ein cymdogaethau'n ddiogel ac yn cael eu cynnal yn dda.
Mae ar ddemocratiaeth leol, fywiog angen pobl a fydd yn cynrychioli cymunedau ac yn llunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu dinasyddion. Er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu yng Nghaerdydd mewn ffordd agored a theg, mae'r Cyngor angen i chi, fel preswylydd, gymryd rhan a dylanwadu ar newid ar gyfer eich ardal chi.
Ynglŷn â Chyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn un o 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae'n darparu dros 700 o wasanaethau i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, gan gynnwys:
- Addysg
- Tai
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Priffyrdd a thrafnidiaeth
- Rheoli gwastraff
- Gwasanaethau hamdden a diwylliannol
- Amddiffyn defnyddwyr
- Iechyd yr amgylchedd
- Cynllunio
- Datblygu economaidd
- Cynllunio at argyfwng
Mae'r awdurdod yn cynnwys aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd a gweithrediaeth (Cabinet) sy'n gwneud y penderfyniadau am wasanaethau, polisïau a datblygiadau yn y ddinas.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau teg rhaid i'r aelodau a'r uwch reolwyr ddilyn y rheolau a'r rheoliadau a nodir yn y Cyfansoddiad.
Mae canllawiau ar y cyfansoddiad (PDF, 423 KB) wedi'u datblygui'ch helpu chi i lywio a deall y ddogfen allweddol hon.
Ariannu'r Cyngor
Mae'r Cyngor yn derbyn arian o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys grant gan Lywodraeth Cymru, ardrethi busnes a'r Dreth Gyngor. Ddiwedd yr hydref, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Setliad Dros Dro, sy'n rhoi syniad o faint y grant a lefel yr ardrethi busnes y gallem eu disgwyl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cyfrif am dros 75% o gyfanswm ein hincwm. Ym mis Chwefror mae'r Cyngor yn cytuno ar y gyllideb ac yn pennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Rhagor o wybodaeth am Gyllid y Cyngor.
Cysylltu â'ch Cyngor
Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch gysylltu â Chyngor Caerdydd.
Cysylltu â'ch Cynghorydd
Lleol Rôl eich Cynghorydd etholedig yw eich cynrychioli chi a'ch pryderon ac i lobïo ar eich rhan. Gallwch e-bostio, ffonio neu ysgrifennu llythyr at eich cynghorydd. Mae llawer o'n haelodau hefyd yn ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dod o hyd i'ch cynghorwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn anfon diweddariadau rheolaidd ar ein gwasanaethau, digwyddiadau ac unrhyw ymgyngoriadau sy'n mynd rhagddynt. Mae'n werth chweil ein dilyn ni ar Twitter a hoffi ein tudalen ar Facebook. Mae nifer o'ch cynghorwyr lleol hefyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Lawrlwythwch ap Modern.Gov
Gallwch weld holl bapurau cyhoeddus y pwyllgorau ar eich dyfais symudol trwy lawrlwytho ap Modern.Gov. Gallwch ddewis pa bwyllgorau yr hoffech chi danysgrifio iddynt a chaiff y papurau perthnasol eu lawrlwytho i'ch dyfais pan fyddwch ar-lein nesaf. Cofrestrwch i'r ap modern.gov ar Google, Microsoft neu'r App Store .
Gwyliwch gyfarfodydd ar-lein
Gwyliwch gyfarfod y Cyngor. Gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r pwyllgorau wrth iddynt fynd rhagddynt neu wylio cyfarfodydd blaenorol o'r archif.
Cofrestrwch i bleidleisio
I bleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm y DU, mae'n rhaid eich bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio. Dim ond pum munud a'ch rhif Yswiriant Gwladol sydd eu hangen arnoch chi i gofrestru i bleidleisio. Gallwch gofrestru i bleidleisio o 14 oed (ond ni allwch bleidleisio tan eich bod yn 16 neu'n 18 oed, yn dibynnu ar yr etholiad) ac mae gan ddinesydd tramor cymwys yng Nghymru hawl i gofrestru i bleidleisio hefyd.
Dweud eich dweud a chymryd rhan
Dysgwch am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
Cymerwch ran mewn Ymgyngoriadau
Cyhoeddus Rydym yn cynnal ymgyngoriadau rheolaidd ar gynigion a allai effeithio arnoch chi, eich cymuned a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Mae ein holl ymgyngoriadau ar gael yn eang.
Deisebau
Rydym yn cydnabod bod deisebau'n un ffordd y gall pobl roi gwybod i ni am eu pryderon. Gellir cyflwyno deisebau i gyfarfod y Cyngor Llawn a'r Pwyllgorau Cynllunio a Thrwyddedu.
Mae ein Cynllun Deisebau yn esbonio sut i gyflwyno deisebau papur neu electronig i'w hystyried gan y Cyngor llawn neu bwyllgorau.
Deiseb am refferendwm ar Faer sy'n cael ei Ethol yn Uniongyrchol
Yng Nghaerdydd, mae'r Arglwydd Faer yn cael ei ethol gan y Cyngor, yn hytrach na chael ei ethol gan y cyhoedd (ei ethol yn uniongyrchol). Gallwch ofyn am refferendwm ar gyfer Maer sy'n cael ei ethol yn uniongyrchol trwy gyflwyno deiseb i ni.
Gall unrhyw un ddechrau deiseb. Y trefnydd sy'n gyfrifol am gasglu llofnodion a chyflwyno'r ddeiseb i ni.
Rhaid i'r ddeiseb gael ei llofnodi gan o leiaf 10% o'r pleidleiswyr cofrestredig (25,557) o fewn yr ardal o Gyngor Caerdydd. Gallwch weld yr hysbysiad dilysu rhifau (PDF, 64 KB) sy' n cadarnhau'r rhif hwn.
Gallwch gyflwyno deiseb rhwng 6 Mai 2026 a 6 Tachwedd 2026.
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Os ydych chi'n byw neu'n gweithio yng Nghaerdydd a bod gennych gwestiwn i'w gyflwyno am rywbeth sy'n bwysig i chi a'ch cymuned, gallwch ofyn cwestiwn cyhoeddus yn un o gyfarfodydd y Cyngor Llawn. Gallwch ofyn un cwestiwn fesul cyfarfod a hyd at ddau mewn unrhyw flwyddyn y Cyngor.
I ofyn cwestiwn cyhoeddus, e-bostiwch [email protected] neu ysgrifennwch at Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Caerdydd, Ystafell 286, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.
Dweud eich dweud drwy Graffu
Mae aelodau pwyllgorau craffu yn gynghorwyr nad ydyn nhw'n dal swyddi yng Nghabinet y Cyngor. Maent yn monitro perfformiad y Cyngor ac yn ymchwilio i feysydd sy'n peri pryder. Maent hefyd yn dwyn i gyfrif y sawl sy'n gwneud penderfyniadau'r Cyngor ac yn ystyried strategaethau a pholisïau arfaethedig. Maent yn gwirio, ac yn adrodd ar bob maes gwaith y Cyngor, gan gynnwys gwaith partneriaeth. Mae aelodau'r pwyllgorau craffu am glywed eich barn a'ch pryderon ar bynciau.
Mynd i gyfarfod cyhoeddus
Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd gan gynnwys y Cyngor, y Pwyllgor Cynllunio, y Cabinet a'r Pwyllgorau Craffu sy'n ymwneud â phum pwnc. Gweld agendâu, papurau, lleoliad ac amser y cyfarfodydd . Gallwch fynd i gyfarfodydd cyhoeddus. Gweld calendr cyfarfodydd y Cyngor .
Cyngor Ieuenctid Caerdydd
Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd wedi'i ffurfio o unigolion a chynrychiolwyr o ysgolion a grwpiau ieuenctid.
Dysgwch fwy am Gyngor Ieuenctid Caerdydd.
Aelodau Annibynnol ar Bwyllgorau'r Cyngor
Mae gan ddau o bwyllgorau'r Cyngor Aelodau Annibynnol neu Aelodau Lleyg. Diben hyn yw cefnogi llywodraethu da, stiwardiaeth ariannol a safonau ymddygiad uchel y Cyngor a'i Aelodau Etholedig. Mae gan Aelodau Annibynnol ystod o brofiad a sgiliau ac nid oes ganddynt gysylltiadau busnes â'r Cyngor. Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen swyddi Pwyllgor gwag
Bod yn gynghorydd
Caiff cynghorwyr eu hethol i gynrychioli eu cymunedau i wneud penderfyniadau pwysig am faterion lleol a gwasanaethau cyhoeddus lleol. Mae'n bwysig bod cynghorwyr yn adlewyrchu'r bobl sy'n eu hethol - mae angen mwy o gynghorwyr amrywiol - mae angen mwy o fenywod, mwy o bobl ifanc, mwy o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mwy o bobl anabl a mwy o bobl LHDTC+. Mae pob Cyngor wedi ymrwymo i annog a chefnogi pobl amrywiol i ddod yn gynghorwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno diwygiadau i'w gwneud hi'n haws sefyll am etholiad a dod yn gynghorydd..
Etholiadau a phleidleisio
Os oes gennych ddinasyddiaeth Brydeinig, Wyddelig neu ddinasyddiaeth gymwys o'r Gymanwlad, gallwch bleidleisio ym mhob etholiad sy'n cael ei gynnal. Yng Nghymru gallwch bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yn 16 oed. Gallwch bleidleisio ym mhob etholiad arall pan fyddwch yn 18 oed, gan gynnwys etholiadau Senedd y DU a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu. Os oes gennych ddinasyddiaeth yr UE (heblaw Gweriniaeth Iwerddon, Malta a Chyprus), gallwch bleidleisio yn y rhan fwyaf o etholiadau sy'n cael eu cynnal. Ni chewch bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Os ydych chi'n ddinesydd tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru, gallwch bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol.
Pa etholiadau ydw i'n cael pleidleisio ynddyn nhw? Mathau o etholiad
Ewch i Porthol Democratiaeth Leol Cymru.
