Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Mathau o etholiad

Mae 4 math o etholiad yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Etholiadau Llywodraeth Leol

Y Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd yw Cyngor Dinas Caerdydd, neu Gyngor Caerdydd. Arweinir Cyngor Caerdydd gan Gynghorwyr, sy'n cael eu hethol yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol. Maen nhw'n cael eu hadnabod fel Aelodau Cyngor.

Mae Aelodau Cyngor yn gweithredu ar ran pobl Caerdydd, gan wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol, cyllidebau a lefel gyffredinol gwasanaethau'r cyngor.

Etholiadau Llywodraeth Leol

Cynhelir etholiadau Llywodraeth Leol bob 5 mlynedd yng Nghaerdydd.

Mae etholiadau Llywodraeth Leol yn cael eu cynnal fel bod modd i bobl Caerdydd bleidleisio dros bwy fydd yn cael eu hethol yn Aelodau Cyngor.

Mae gan Gyngor Gaerdydd 79 Aelod Cyngor. Maen nhw'n cael eu hethol i gynrychioli'r gwahanol ardaloedd neu Wardiau Etholiadol yng Nghaerdydd.

Mae Caerdydd wedi ei rhannu'n 28 o Wardiau Etholiadol. Felly, bydd gan bob ward fwy nag un cynghorydd yn eu cynrychioli.

Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiad Llywodraeth Leol rydych chi'n dewis pa ymgeisydd rydych chi am ei weld yn cynrychioli eich ward etholiadol yng Nghyngor Caerdydd. Bydd yr ymgeiswyr sy'n derbyn y nifer mwyaf o bleidleisiau yn cael eu hethol yn Aelodau Cyngor, a byddan nhw'n cynrychioli pawb yn eich ward etholiadol.

Mae gan rai ardaloedd yng Nghaerdydd Gyngor Cymuned hefyd. Cynghorwyr Cymuned sy'n arwain Cynghorau Cymuned. Nhw sy'n gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau ac am ddarparu a chadw amwynderau lleol. Mae Aelodau Cyngor Cymuned hefyd yn cael eu hethol mewn Etholiad Llywodraeth Leol.

Os ydych chi'n byw mewn ardal yng Nghaerdydd â chyngor cymuned, bydd gennych chi ddau bapur pleidleisio wrth fwrw pleidlais:

  • un i bleidleisio am Gynghorydd i gynrychioli eich ward etholiadol yng Nghyngor Caerdydd
  • un i bleidleisio dros Gynghorydd Cymuned i gynrychioli eich ardal yn eich Cyngor Cymuned

Pam mae Etholiadau Llywodraeth Leol yn Bwysig?

Y Blaid Wleidyddol â'r nifer mwyaf o Aelodau Cyngor fydd yn ffurfio Cabinet y Cyngor a nhw fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau a pholisïau am wasanaethau lleol, cyllidebau, a lefel gyffredinol gwasanaethau'r cyngor. Dyma wasanaethau sy'n cael effaith uniongyrchol ar bobl Caerdydd, fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Ailgylchu a Chasglu Gwastraff.

Dewch o hyd i'ch Cynghorydd lleol

 

Etholiadau'r Senedd

Y Senedd, neu Senedd Cymru yn ffurfiol, yw'r Senedd ar gyfer Cymru. Mae'r Senedd ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae gan y Senedd 'bwerau datganoledig', sy'n golygu bod ganddi bwerau i ddeddfu dros faterion a oedd wedi eu cadw i Senedd y DU yn San Steffan yn y gorffennol.

Arweinir y Senedd gan Aelodau sy'n cael eu hethol yn Etholiadau'r Senedd, fe'u gelwir yn 'Aelodau o'r Senedd'.

Mae Aelodau o'r Senedd yn gweithredu ar ran pobl Cymru. Maen nhw'n gwirio gwaith Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod cynlluniau ar gyfer gwario arian neu gynnal gwasanaethau yn cael eu cyflawni yn y ffordd orau bosib i Gymru.

Etholiadau'r Senedd

O 2026 ymlaen, bydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob 4 blynedd.

Mae etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal fel y gall pobl Cymru bleidleisio dros bwy gaiff eu hethol yn aelodau o'r Senedd.

Mae canlyniadau etholiadau'r Senedd hefyd yn cael eu defnyddio i benderfynu pwy fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.

O ran etholiadau'r Senedd - o 2026 ymlaen, bydd Cymru yn cael ei rhannu'n 16 o etholaethau.

Gweld map o'r 16 o etholaethau'r Senedd.

Bydd 96 o aelodau'r Senedd. Caiff aelodau'r Senedd eu hetholi gynrychioli'r 16 o etholaethau yng Nghymru. Bydd gan bob etholaeth 6 aelod o'r Senedd i'w chynrychioli.

Pan fyddwch chi'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, byddwch chi'n derbyn un papur pleidleisio i bleidleisio dros un blaid neu un ymgeisydd annibynnol.

Pam mae etholiadau'r Senedd yn bwysig?

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut mae Cymru yn cael ei rhedeg. Nhw sy'n dewis ar beth y caiff arian cyhoeddus ei wario ac sy'n penderfynu sut i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, fel iechyd ac addysg.

Mae'r Senedd yn edrych yn fanwl ar waith Llywodraeth Cymru ac yn holi ei gweinidogion. Mae'n archwilio cynlluniau'r llywodraeth ac yn awgrymu newidiadau. Mae aelodau o'r Senedd hefyd yn gallu codi materion yn y Senedd sy'n bwysig i chi.

 

Etholiadau Senedd y DU (Etholiadau Cyffredinol)

Mae Senedd y DU ar wahân i Lywodraeth y DU ac mae'n cynnwys tair elfen ganolog:

  • Tŷ'r Cyffredin
  • Tŷ'r Arglwyddi
  • Y Frenhiniaeth

Mae prif fusnes y Senedd yn San Steffan yn digwydd yn y ddau Dŷ.

Bwriad y Senedd hwn yw cynrychioli buddiannau pobl y DU a sicrhau bod y buddiannau hyn yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y DU.

Dysgwch fwy am rôl senedd San Steffan.

Etholiad Seneddol y DU

Cynhelir Etholiadau Seneddol y DU o leiaf unwaith bob 5 mlynedd ac maent yn cael eu hadnabod yn fwy cyffredin fel Etholiadau Cyffredinol y DU.

Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol, rydych chi'n dewis pa ymgeisydd rydych chi'n ei ddymuno i gynrychioli'ch etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Bydd yr Ymgeisydd â'r nifer mwyaf o bleidleisiau yn eich etholaeth yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol neu AS ar gyfer eich etholaeth ac yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae gan Dŷ'r Arglwyddi aelodau sy'n cael eu penodi gan amlaf am oes yn hytrach na'u hethol. Maen nhw'n aml wedi eu dewis oherwydd eu cyflawniadau a'u profiad.

Mae'r blaid wleidyddol â'r nifer mwyaf o AS etholedig yn gallu ffurfio Llywodraeth y DU. Felly, mae eich pleidlais mewn etholiad cyffredinol yn chwarae rhan wrth benderfynu pwy sy'n arwain y wlad.

Pam mae Etholiadau Seneddol y DU yn bwysig?

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am benderfynu sut mae'r DU yn cael ei rhedeg. Nhw sy'n gosod trethi'r DU ac yn creu cyfreithiau a pholisi ar faterion a gedwir yn ôl fel yr heddlu, amddiffyn, perthnasoedd rhyngwladol, budd-daliadau lles a chyflenwadau ynni'r DU.

Er bod llawer o bwerau Llywodraeth y DU wedi eu dirprwyo i'r 'sefydliadau datganoledig' yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (yng Nghymru y Senedd yw hon), dim ond Llywodraeth y DU sy'n cael siarad ar ran y DU a chynrychioli pobl y DU dramor.

Gwaith y Senedd yw edrych yn fanwl ar gynlluniau Llywodraeth y DU a monitro'r ffordd maen nhw'n cynnal pethau.

Felly, pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y DU rydych chi'n dewis pwy rydych chi'n meddwl ddylai weithio ar eich rhan i geisio gwneud yn siŵr bod penderfyniadau Llywodraeth y DU yn:

  • agored a thryloyw - drwy holi gweinidogion a gofyn am wybodaeth
  • ymarferol ac effeithlon - drwy archwilio cynigion newydd yn fanwl ac awgrymu gwelliannau, gwirio sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario ac olrhain sut mae deddfau newydd yn gweithio'n ymarferol
  • teg ac anwahaniaethol - drwy wirio eu bod yn cydymffurfio â chyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol a thrwy siarad ar ran unigolion sydd wedi eu heffeithio

 

Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw llais y bobl ac sy'n dwyn yr heddlu i gyfrif.

Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mae Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal bob 4 blynedd.

Wrth sôn am etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae 41 o ardaloedd ledled Cymru a Lloegr lle mae 1 Comisiynydd yn cael ei ethol. Yng Nghaerdydd gallwch bleidleisio dros bwy sy'n eich cynrychioli fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.

Pam mae Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn bwysig?

Nod Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw dileu trosedd a sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon o fewn ardal eu heddlu.

Felly, pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu rydych chi'n cael dewis pwy yn eich barn chi ddylai ddwyn y Prif Gwnstabliaid a'r heddlu i gyfrif yn eich ardal chi.

Dysgu mwy am rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Deiseb am refferendwm ar Faer sy'n cael ei Ethol yn Uniongyrchol

Yng Nghaerdydd, mae'r Arglwydd Faer yn cael ei ethol gan y Cyngor, yn hytrach na chael ei ethol gan y cyhoedd (ei ethol yn uniongyrchol). Gallwch ofyn am refferendwm ar gyfer Maer sy'n cael ei ethol yn uniongyrchol trwy gyflwyno deiseb i ni.

Gall unrhyw un ddechrau deiseb. Y trefnydd sy'n gyfrifol am gasglu llofnodion a chyflwyno'r ddeiseb i ni.

Rhaid i'r ddeiseb gael ei llofnodi gan o leiaf 10% o'r pleidleiswyr cofrestredig (25,557) o fewn yr ardal o Gyngor Caerdydd.

Gallwch weld yr hysbysiad dilysu rhifau (PDF, 64 KB) sy' n cadarnhau'r rhif hwn.

Gallwch gyflwyno deiseb rhwng 6 Mai 2026 a 6 Tachwedd 2026.